Mynydd Preseli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cys all |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Cysylltiadau allanol== |
==Cysylltiadau allanol== |
||
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/ |
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli] |
||
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli2.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli 2] |
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli2.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli 2] |
||
Fersiwn yn ôl 20:34, 2 Medi 2008
Mynyddoedd yng ngogledd Sir Benfro yn ne-orllewin Cymru yw Mynydd Preseli, hefyd Mynydd Preselau, Y Preseli neu Y Preselau. Maent yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn ymestyn o gyffiniau Abergwaun yn y gorllewin hyd ar ardal Crymych yn y dwyrain.
Y copa uchaf yw Foel Cwmcerwyn (536 medr). Copaon eraill yw Carn Ingli, Foel Eryr, Frenni Fach, Frenni Fawr a Foel Drygarn. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddues efallai yr cromlech Pentre Ifan. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith Côr y Cewri wedi dod o ardal Carn Menyn (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd garneddi o Oes yr Efydd a bryngeiri o Oes yr Haearn, er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.
Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'r Twrch Trwyth yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio Iwerddon, ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr Arthur yng Nghwm Cerwyn.
Arferai'r diwydiant llechi fod yn bwysig yma, er nad oes yr un o'r chwareli yn parhau ar agor erbyn hyn.