Robert Thompson Crawshay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Branor (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Robert Thompson Crawshay (1817–1879).jpg|bawd]]
Diwydiannwr a pherchennog [[Gwaith Haearn Cyfarthfa]] ger [[Merthyr Tudful]] oedd '''Robert Thompson Crawshay''' ([[8 Mawrth]] [[1817]] - [[10 Mai]] [[1879]]).
Diwydiannwr a pherchennog [[Gwaith Haearn Cyfarthfa]] ger [[Merthyr Tudful]] oedd '''Robert Thompson Crawshay''' ([[8 Mawrth]] [[1817]] - [[10 Mai]] [[1879]]).



Fersiwn yn ôl 21:30, 13 Tachwedd 2017

Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd Robert Thompson Crawshay (8 Mawrth 1817 - 10 Mai 1879).

Ganed ef yng Nghyfartha. Roedd yn fab i William Crawshay II. Pan ymddeolodd William Crawshay i Caversham yn Lloegr yn 1847, trosglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i Robert, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.

Daeth Robert yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, er i anghydfod diwydiannol efeithio ar weithfeydd Cyfarthfa yn y 1870au. Robert oedd yn gyfrifol am sefydlu Band Cyfarthfa. Dywedir ei fod hefyd yn ferchetwr o fri. Cynorthwyodd ef a'i wraig, Rose Mary Crawshay, gyda'r gwaith o godi ysgolion.

Bu farw pan ar ymweliad a Cheltenham. Claddwyd ef ym mynwent y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me". Cadwyd y busnes ymlaen gan ei feibion fel Messrs. Crawshay Bros. am gyfnod, ond gwerthwyd ef i Guest, Keen, and Nettlefold yn 1902.

Llyfryddiaeth