Bitcoin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cysylltiadau siopa ychwanegol
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 185.156.120.83 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Billinghurst.
Llinell 12: Llinell 12:
*Beth ydy Bitcoin http://www.coindesk.com/information/what-is-bitcoin/
*Beth ydy Bitcoin http://www.coindesk.com/information/what-is-bitcoin/
*Prynu Bitcoin https://www.coinbase.com/
*Prynu Bitcoin https://www.coinbase.com/
*Prynu Bitcoin https://www.bitfinex.com
*Prynu Bitcoin https://coingi.com
*Prynu Bitcoin https://www.bitstamp.net
*Prynu Bitcoin https://www.kraken.com





Fersiwn yn ôl 12:18, 12 Tachwedd 2017

Logo Bitcoin

Mae Bitcoin yn system talu a ddyfeisiwyd gan Satoshi Nakamoto a gyhoeddwyd yn 2008 a'i lansio fel meddalwedd côd agored yn 2009. Nid oes gan Bitcoin arian papur neu ddarnau metal. Mae'r system yn gweithio'n uniongyrchol o gyfrifiadur neu ffôn symudol un defnyddiwr i ddefnyddiwr arall. Y term am y fath yma o drosglwyddo uniongyrchol yw 'P2P' - 'cymar i gymar' (Saesneg: Peer-to-Peer) a gysylltir yn bennaf a throsglwyddo ffeiliau cerddoriaeth a ffilm, heb dâl.[1]

Dywedir mai Bitcoin oedd yr arian digidol neu 'cryptocurrency' cyntaf gyda nifer o systemau tebyg wedi'u datblygu'n ddiweddarach, er enghraifft: Ripple, Litecoin, Peercoin.[2][3]

Gellir gwario Bitcoins heb fanc neu ffi ac nid oes raid datgelu enw personol cywir.[1] Fe'u cedwir mewn 'waled ddigidol' a all fod ar gyfrifiadur, ffôn symudol neu 'yn y cwmwl' (wedi storio ar system ar-lein). Mae'r waled ddigidol hon yn fath o gyfrif banc ac mae'r taliadau'n trosglwyddo o waled i waled. Ar yr ochr negyddol, gall y waled gael ei hacio neu ei difetha gan feirws ac mae modd dileu Bitcoin trwy gamgymheiriad. Tra bod pob trosglwyddiad yn cael ei gofrestri'n gyhoeddus, nid oes yn rhaid rhoi enw personol cywir, dim ond enw'r waled. Dywedir bod y system yn aml yn cael ei defnyddio ar gyfer prynu cyffuriau neu daliadau anghyfreithlon eraill.[1]

Ar 7 Hydref 2014, cyhoeddwyd cynllun gan Sefydliad Bitcoin Foundation eu bwriad o wneud cais am safon arian cyfred ISO 4217 ar gyfer bitcoin,[4] a soniwyd am yr ymgeiswyr BTC a XBT.[5]

Dolennau allanol


Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 http://money.cnn.com/infographic/technology/what-is-bitcoin/
  2. https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_cryptocurrencies
  3. http://www.therichest.com/business/technology/the-10-most-important-cryptocurrencies/
  4. Nermin Hajdarbegovic (7 Hydref 2014). "Bitcoin Foundation to Standardise Bitcoin Symbol and Code Next Year". CoinDesk. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
  5. "Press Release 7 Hydref 2014: Bitcoin Foundation Financial Standards Working Group Leads the Way for Mainstream Bitcoin Adoption". Press Release. Bitcoin Foundation. 7 Hydref 2014. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am arian. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.