Ieithoedd Goedelaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: kw:Godhelek
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 93: Llinell 93:
[[pl:Języki goidelskie]]
[[pl:Języki goidelskie]]
[[pt:Línguas gaélicas]]
[[pt:Línguas gaélicas]]
[[ru:Гойдельские языки]]
[[sco:Goidelic leids]]
[[sco:Goidelic leids]]
[[simple:Goidelic languages]]
[[simple:Goidelic languages]]

Fersiwn yn ôl 21:01, 29 Awst 2008

Mae 'r ieithoedd Goideleg, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaeleg, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtig sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goideleg ac ieithoedd Brythonig, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Cyfeirir at yr ieithoedd Goideleg hefyd fel Celteg Q tra gelwir yr ieithoedd Brythonig yn Gelteg P. Cadwodd yt ieithoedd Q y sain Proto-Gelteg *kw, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonig trôdd y sain *kw yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kw.

Proto-Gelteg Galeg Cymraeg Llydaweg Gwyddeleg Gaeleg yr Alban Manaweg
*kwennos pennos pen penn ceann ceann kione
*kwetwar- petuarios pedwar pevar ceathair ceithir kiare
*kwenkwe pinpetos pump pemp cúig còig queig
*kweis pis pwy piv cé (older cia) cò/cia quoi

Credir fod yr ieithoedd Goideleg wedi datblygu fel a ganlyn:

Hyd y gwyddir, dim ond yn Iwerddon yr oedd ieithoedd Goideleg yn cael ei siarad hyd nes i'r Scoti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbyd rhwng y 3edd ganrif a'r 6ed ganrif.


v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd