Gwlad Groeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: wuu:希腊
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 93: Llinell 93:


Ar ôl y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel [[Twrci]] a [[Bwlgaria]], gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis [[Asia Leiaf]], Bwlgaria, [[Albania]] a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.
Ar ôl y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel [[Twrci]] a [[Bwlgaria]], gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis [[Asia Leiaf]], Bwlgaria, [[Albania]] a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.

Dinasoedd mwyaf Groeg yw [[Athen]], [[Thessaloniki]], [[Piraeus]] a [[Patras]].


==Rhaniadau Gweinyddol==
==Rhaniadau Gweinyddol==

Fersiwn yn ôl 15:23, 24 Awst 2008

Ελληνική Δημοκρατία
Ellinikí Dhimokratía

Y Weriniaeth Helenaidd
Baner Gwlad Groeg Arfbais Gwlad Groeg
Baner Arfbais
Arwyddair: Ελευθερία ή Θάνατος
Eleftheria i thanatos

(Groeg: Rhyddhad neu Farwolaeth)
Anthem: Imnos is tin Eleftherian
Lleoliad Gwlad Groeg
Lleoliad Gwlad Groeg
Prifddinas Athen
Dinas fwyaf Athen
Iaith / Ieithoedd swyddogol Groeg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Karolos Papoulias
Kostas Karamanlis
Annibyniaeth

 • Datganwyd
 • Cydnabuwyd
Oddi wrth Yr Ymerodraeth Ottoman
25 Mawrth 1821
1829
Esgyniad i'r UE1 Ionawr 1981
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
131,990 km² (96fed)
0.87
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
11,244,118 (74fed)
10,964,020
84/km² (108fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$261.018 biliwn (37fed)
$23,518 (30fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.912 (24fed) – uchel
Arian cyfred Euro (€) 1 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .GR 1
Côd ffôn +30
1 cyn i 1999: Drachma Groeg
2 Hefyd .eu

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gweriniaeth Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.

Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.

Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 C.C. hyd 393 O.C. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.

Daearyddiaeth

Saif Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop, ar ran ddeheuol Penrhyn y Balcanau a'r ynysoedd o'i amgylch yn Môr y Canoldir. Dim ond darn cul o dir sy'n cysylltu rhan ddeheuol y penrhyn, y Peloponnesos, a'r tir mawr. Yn y gogledd, mae Groeg yn ffinio ar Bwlgaria, Gweriniaeth Macedonia ac Albania, ac yn y dwyrain a Twrci. Mae rhwng 1,400 a 2,000 o ynysoedd yng Ngwlad Groeg, yn dibynnu sut y diffinir ynys, ond dim ond ar 227 ohonynt y mae poblogaeth barhaol, a dim ond ar 78 o'r rhain y mae mwy na 100 o drigolion. Ymhlith y rhain mae Creta, Euboea, Lesbos, Chios, Rhodos, Kerkyra, y Dodecanese a'r Cyclades.

Gwlad fynyddig yw Groeg, gyda tua 80% o'i harwynebedd yn fynyddig. Ynghanol y penrhyn, mae mynyddoedd y Pindus yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac yn codi i 2637 medr o uchder. Copa uchaf Groeg yw Mynydd Olympus, 2919 medr o uchder. Ar y ffîn rhwng Groeg a Bwlgaria mae Mynyddoedd Rhodope.

Hanes

Ar lannau'r Môr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y Gwareiddiad Minoaidd ar ynys Creta, gyda Knossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y Gwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.

Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y polis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i Asia Leiaf a de yr Eidal (Magna Graecia). Ymladdodd Athen a Sparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiad Ymerodraeth Persia yn y 5ed ganrif CC. Yn ddiweddarach, ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan Thebai.

Daeth Macedonia yn feistr ar y dinas-wladwriaethau Groegaidd gan Philip II, brenin Macedon, a than ei fab ef, Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y Cyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn 146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.

Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr Ymerodraeth Fysantaidd, gyda Caergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'r Ymerodraeth Ottomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Ottomanaidd hyd ar Ryfel Annibyniaeth Groeg(1821 - 1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbyn Twrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin yr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Rhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan junta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr Ewro yn 2001.

Demograffiaeth

Delwedd:Greece demography.png
Poblogaeth Groeg o 1961 hyd 2003

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth Groeg yn 10,964,020. Yn Ionawr 2008, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn 11,240,000. Yn 2005. roedd y boblogaeth yn cynyddu o 0.19% y flwyddyn. Roedd disgwyliad bywyd yn 76.59 mlynedd i ddynion a 81.76 mlynedd i ferched.

O ran crefydd, mae tua 98% yn perthyn i Eglwys Uniongred y Dwyrain, gyda 1.3% yn ddilynwyr Islam.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel Twrci a Bwlgaria, gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis Asia Leiaf, Bwlgaria, Albania a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.

Dinasoedd mwyaf Groeg yw Athen, Thessaloniki, Piraeus a Patras.

Rhaniadau Gweinyddol

Rhennir Gwlad Groeg yn dair ar ddeg o raniadau a elwir yn "peripheriau". Rhennir y rhain yn 54 o nomau.


Map Rhif Peripheri Prifddinas Arwynebedd Poblogaeth
1 Attica Athen 3,808 km² 3,761,810
2 Canolbarth Groeg Lamia 15,549 km² 605,329
3 Canolbarth Macedonia Thessaloniki 18,811 km² 1,871,952
4 Creta Heraklion 8,259 km² 601,131
5 Dwyrain Macedonia a Thrace Kavála 14,157 km² 611,067
6 Epirus Ioannina 9,203 km² 353,820
7 Ynysoedd Ionia Corfu 2,307 km² 212,984
8 Gogledd Aegea Mytilene 3,836 km² 206,121
9 Peloponnesos Kalamata 15,490 km² 638,942
10 De Aegea Ermoupoli 5,286 km² 302,686
11 Thessalia Larissa 14.037 km² 753,888
12 Gorllewin Groeg Patras 11,350 km² 740,506
13 Gorllewin Macedonia Kozani 9,451 km² 301,522
- Mynydd Athos (Ymreolaethol) Karyes 390 km² 2,262

Diwylliant Groeg

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol