Cassandra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:Cassandra1.jpeg|thumb|220px|Cassandra; llun gan Evelyn De Morgan]]
[[Image:Cassandra1.jpeg|thumb|180px|Cassandra; llun gan Evelyn De Morgan]]


Cymeriad ym [[Mytholeg Groeg]] oedd '''Cassandra''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Kασσάνδρα''), hefyd '''Alexandra'''. Roedd yn ferch i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]] a'i wraig [[Hecuba]].
Cymeriad ym [[Mytholeg Groeg]] oedd '''Cassandra''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Kασσάνδρα''), hefyd '''Alexandra'''. Roedd yn ferch i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]] a'i wraig [[Hecuba]].

Fersiwn yn ôl 06:33, 24 Awst 2008

Cassandra; llun gan Evelyn De Morgan

Cymeriad ym Mytholeg Groeg oedd Cassandra (Groeg: Kασσάνδρα), hefyd Alexandra. Roedd yn ferch i Priam, brenin Caerdroea a'i wraig Hecuba.


Roedd ganddi'r ddawn o broffwydo'r dyfodol. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, treuliodd hi a'i brawd Helenus moson yn nheml Apollo, a llyfodd y nadroedd yn y deml ei chlustiau yn lân, fel y gallai glywed y dyfodol. Syrthiodd Apollo mewn cariad a hi, ond pan na ddychwelodd Cassandra ei gariad, rhoddodd felltith arni: y byddai bob amser yn proffwydo'r dyfodol yn gywir, ond na fyddai neb byth yn ei chredu.

Proffwydodd Cassandra ddinistr Caerdoea yn Rhyfel Caerdroea, a rhybuddiodd am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, ond ni chredwyd hi a syrthiodd y ddinas. Credai ei theulu ei bod yn orffwyll. Wedi cwymp y ddinas, rheibiwyd hi gan Aiax y Lleiaf; yna cymerodd Agamemnon hi yn ordderch. Llofruddiwed Cassandra ac Agamemnon gan Clytemnestra, gwriag Agamemnon, a chariad Clytemnestra, Aegisthus, wedi i Agamemnon anwybyddu rhybudd Cassandra.