Môr Marmara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|250px|Môr Marmara Môr sy'n cysylltu'r Môr Du a Môr Aegaea yw '''Môr Marmara''' (Twrceg: ''Marmara Denizi'', [[Groeg (iaith)|G... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:12, 23 Awst 2008
Môr sy'n cysylltu'r Môr Du a Môr Aegaea yw Môr Marmara (Twrceg: Marmara Denizi, Groeg: Θάλασσα του Μαρμαρά neu Προποντίς). Yn y cyfnod clasurol, gelwid ef y Propontis (Groeg: Προποντίς).
Mae Môr Marmara yn gwahanu than Ewropeaidd Twrci oddi wrth y rhan Asiaidd o'r wlad. Yn y gogledd mae culfor y Bosphorus yn arwain i'r Môr Du, tra yn y de-orllewin mae culfor y Dardanelles yn ei gysylltu a Môr Aegaea. Mae ganddo arwynebedd o 11,350 km², ac mae'n 1,370 medr o ddyfnder yn ei fan dyfnaf.
Daw'r rnw oherwydd bod Ynys Marmara yn y môr yma yn cynhyrchu marmor (Groeg: marmaro). Ynys arall ym Môr Marmara yw İmralı, lle mae Abdullah Öcalan wedi ei garcharu.