Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Celtica (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Celtica (sgwrs | cyfraniadau)
dolen
Llinell 109: Llinell 109:
Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y [[Mwriaid]] dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, [[Guifré el Pilós]], ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel ''Els Quatre Dits de Sang'', y pedwar byd gwaedlyd.
Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y [[Mwriaid]] dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, [[Guifré el Pilós]], ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel ''Els Quatre Dits de Sang'', y pedwar byd gwaedlyd.


Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner [[Cwba]] a {Puerto Rico]], a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.
Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner [[Cwba]] a [[Puerto Rico]], a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.


<gallery>
<gallery>

Fersiwn yn ôl 20:08, 27 Hydref 2017

Mae'r erthygl yma yn trafod gwlad a gyhoeddodd ei hannibyniaeth ar 27 Hydref 2017, (tir dadleuol). Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalwnia.
Catalwnia
Catalunya Catalaneg
Catalonha Ocsitaneg
Gwlad annibynol
ers 27 Hydref 2017
Senyera
Baner
Arfbais Catalwnia
Arfbais
Anthem: Els Segadors
"Y Cynaeafwyr"
Map o Gatalonia
Lleoliad Catalwnia o fewn Penrhyn Iberia
Gwlad sofranSbaen
Hanes Catalwnia988 (de facto)
1137 (Undeb gydag Aragon)
1716 (Nova Planta)
Ystatud Ymreolaethol9 Medi 1932
18 Medi 1979
9 Awst 2006 (cyfredol)
PrifddinasBarcelona
41°23′N 2°11′E / 41.383°N 2.183°E / 41.383; 2.183
TaleithiauBarcelona, Girona, Lleida, Tarragona
Llywodraeth
 • MathGwlad annibynol
Cyn 27 Hydref 2017: Llywodraeth ddatganoledig o fewn brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • CorffGeneralitat de Catalunya
 • ArlywyddCarles Puigdemont i Casamajó (JxSí)
 • DeddfwrfaLlywodraeth
Arwynebedd[1]
 • Cyfanswm32,108 km2 (12,397 mi sg)
Poblogaeth (2016)
 • Cyfanswm7,522,596
 • Dwysedd230/km2 (610/mi sg)
 • SafleAil (16% o Sbaen)
CMC (nominal)
 • Cyfanswm$255.204 biliwn (2012)
 • Y pen$33,580 (2012)[2]
Parth amserCET (UTC+1)
 • Summer (DST)CEST (UTC+2)
Côd+34 93 (Barcelona)
+34 97- (gweddill Catalwnia)
ISO 3166ES-CT
Ieithoedd swyddogolCatalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg (Araneg)
Internet TLD.cat
NawddsantSant Siôr, Morwyn Montserrat
Llywodraeth Catalonia135 dirprwy
Cynghrair Dirprwyon Sbaen47 dirprwy (o 350)
Senedd Sbaen16 seneddwr (o 264)
WebsiteGeneralitat of Catalonia

Mae Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn wlad Ewropeaidd a gyhoeddodd ddatganiad o annibyniaeth ar 27 Hydref 2017. Tan hynny bu'n cael ei chyfri gan Sbaen a rhai gwleydd eraill fel un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.

Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:

Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd. Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses.

Cynhelir diwrnod Catalwnia, sef La Diada flynyddol ar 11 Medi,[3] a gwnaed hynny ers 'Y Cyrch ar Farcelona' yn 1714. Mae'n ddiwrnod o ddathiad bodolaeth y gymuned ymreolaethol, ond hefyd yn atgoffa pobl i'r y gymuned ymreolaethol golli eu system ddeddfau wedi'r cyrch hwnnw.

Hanes

Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Corts de Monçó enwyd y tiriogaethau fel Corona d'Aragó i de Catalunya, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona d'Aragó, Coron Aragón.

Baneri

Y faner swyddogol yw'r La Senyera, a chaiff ei ddefnyddio hefyd ar faner Aragón, yr Ynysoedd Balearig, Valencia a dinas Alghero yn Sardinia; fe'i ceir hefyd ar arfbais y Pyrénées-Orientales, Provence-Alpes-Côte d'Azur, baner Roussillon, Capcir, Vallespir, Provence yn Ffrainc ac ar arfbais Andorra. Ar un cyfnod, deuai'r mannau hyn i gyd o dan reolaeth Coron Aragón a Iarll Barcelona a heddiw mae'r Gatalaneg wedi goroesi yma a gelwir hwy yn Països Catalans (gwledydd Catalan).

Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y Mwriaid dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, Guifré el Pilós, ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel Els Quatre Dits de Sang, y pedwar byd gwaedlyd.

Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner Cwba a Puerto Rico, a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.

Annibyniaeth

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliwyd Refferendwm Catalwnia 2014, a phleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 15 Ionawr cyhoeddodd Llywydd y wlad, Artur Mas, ei fod yn galw etholiad ar 27 Medi 2015.[4] Canlyniad y bleidlais oedd i dros 68 o'r seddi allan o gyfanswm o 135 gael eu llenwi gan gynrychiolwyr a oedd o blaid annibyniaeth.[5]

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses. Ar 27 hydref, er gwaethaf bygythiadau gan Sbaen, pleidleisiodd Llywodraeth Catalwnia dros wneud datganiad o annibyniaeth. O fewn hanner awr, cyhoeddodd Sbaen y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol.

Ieithoedd

Ceir tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:

Catalaneg
Yn medru Nifer Canran
Deall 5.872.202 94,5%
Siarad 4.630.640 74,5%
Darllen 4.621.404 74,4%
Ysgrifennu 3.093.223 49,8%
Cyfanswm 6.215.281 100%

Un o awduron mwyaf nodedig y Gatalaneg yw Joan Oliver i Sallarès, dramodydd a bardd.

Chwaraeon

Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg UEFA na FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.

Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt; 1997

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Indicadors geogràfics. Superfície, densitat i entitats de població: Catalunya". Sefydliad Ystadegaeth Catalwnia. Cyrchwyd 2015-11-23.
  2. National Statistics Office (Spain's GDP and GRP), National Statistics Office. Niferoedd CMC ar gyfer y Cymunedau Ymreolaethol a Rhanbarthau Sbaen 2008-2012.
  3. barcelonas.com; adalwyd 29 Awst 2017.
  4. "Mas announces an agreement with ERC and will call a snap election for 27 September 2015 " (yn Sbaeneg). El País. 2015-01-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. www.theguardian.com adalwyd 2015