Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
B →‎Cyfeiriadau: clean up
B Symudodd Rhyswynne y dudalen Ifor Rees i Ifor Rees (awdur)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:58, 27 Hydref 2017

Delwedd:Ifor Rees.jpg
Y Parchedig Ifor Rees BD MA

Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees (1 Mawrth 192127 Chwefror 2004).[1] Fe'i ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd-bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.

Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.

Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1996 am ei waith. Bu farw'n 2004 yn 82 oed.

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau