Arsyllfa Frenhinol Greenwich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Yr Arsyllfa Frenhinol, Greenwich i Arsyllfa Frenhinol Greenwich: Mwy idiomatig na Chymreigiad llythrennol o 'The Royal Observatory, Greenwich' |
B robot yn ychwanegu: fa:رصدخانه سلطنتی گرینویچ |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[en:Royal Observatory, Greenwich]] |
[[en:Royal Observatory, Greenwich]] |
||
[[es:Real Observatorio de Greenwich]] |
[[es:Real Observatorio de Greenwich]] |
||
[[fa:رصدخانه سلطنتی گرینویچ]] |
|||
[[fr:Observatoire royal de Greenwich]] |
[[fr:Observatoire royal de Greenwich]] |
||
[[he:מצפה הכוכבים המלכותי של גריניץ']] |
[[he:מצפה הכוכבים המלכותי של גריניץ']] |
Fersiwn yn ôl 05:09, 8 Awst 2008
Lleolir Arsyllfa Frenhinol Greenwich ar fryn ym Mharc Greenwich yn Llundain. Roedd y Seryddwr Brenhinol yn gweithio yn y fan yma ac roedd yr arsyllfa ar y Prif Feridian, sef y meridian sylfaenol ar gyfer pob hydred. Heddiw, mae llinell efydd ar y lawnt yn dangos safle'r Prif Feridian ac ers 16 Rhagfyr, 1999 mae golau laser gwyrdd wedi goleuo i'r gogledd yn ystod y nos.
Comisiynwyd yr arsyllfa gan y brenin Siarl II ym 1675. Adeiladwyd yr arsyllfa wreiddiol, Flamsteed House (1675-76), gan Syr Christopher Wren. Dyma'r adeilad cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu'n arbennig fel sefydliad ymchwil gwyddonol.
Nid yw'r awyr uwchben Llundain bellach yn ddigon clir ar gyfer seryddiaeth, felly symudwyd yr Arsyllfa Frenhinol i Gastell Herstmonceux ger Hailsham, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd Sbiendrych Isaac Newton yn y fan yma ym 1967, ond symudwyd ef i La Palma yn Sbaen ym 1979. Symudodd yr Arsyllfa Frenhinol unwaith eto ym 1990, y tro yma i Gaergrawnt, ond ar ôl penderfyniad y Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronyn a Seryddiaeth terfynwyd ef ym 1998. ar ôl hynny symudwyd Swyddfa y Nautical Almanac i Labordy Rutherford Appleton ac unwaith arall i'r Canolfan Technoleg Seryddiol yng Nghaeredin.
Cyn i gyflwyno Amser Cyfesurol Cyffredinol roedd Amser Safonol Greenwich (GMT), sef amser a penderfynwyd ar ôl arsylliadau'r arsyllfa hon, yr amser sylfaenol y byd.
Mae'r pelen amser wedi a'i adeiladwyd gan y Seryddwr Brenhinol John Pond ym 1833 yn dal i gwympo pob dydd ar 13:00. Heddiw, mae yna hefyd amgueddfa offer seryddol a mordwyol sydd yn cynnwys H4, y cronomedr hydred gan John Harrison.