Dolly Pentreath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cernywes a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith Gernyweg olaf oedd '''Dolly Pentreath''' (bu farw yn Rhagfyr, 1777). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iai...
 
Llinell 13: Llinell 13:


[[en:Dolly Pentreath]]
[[en:Dolly Pentreath]]
[[fr:Dolly Pentreath]]

Fersiwn yn ôl 18:29, 6 Awst 2008

Cernywes a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith Gernyweg olaf oedd Dolly Pentreath (bu farw yn Rhagfyr, 1777). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath yw adroddiad Daines Barrington am gyfweliad gyda Dolly. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif, er bod ganddynt wybodaeth o Saesneg hefyd.

Er i Dolly ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sawsnek!" ("dwi ddim isio siarad Saesneg!"), roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676.

Roedd Pentreath yn byw ar hyd ei hoes ym mhlwyf Paul, ger Mousehole, lle cafodd ei chladdu hefyd; codwyd cofeb iddi ym mur y llan yn 1860 gan Louis Lucien Bonaparte, nai Napoleon.

Heddiw mae sawl person yn siarad y Gernyweg adfywiedig fel mamiaith, yn cynnwys Gwenno Saunders, sy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg hefyd.