Tyrus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: gl:Tiro
B robot yn newid: cu:Тѵ́ръ
Llinell 21: Llinell 21:
[[ca:Tir]]
[[ca:Tir]]
[[cs:Týros]]
[[cs:Týros]]
[[cu:Тѷръ]]
[[cu:Тѵ́ръ]]
[[de:Tyros]]
[[de:Tyros]]
[[el:Τύρος]]
[[el:Τύρος]]

Fersiwn yn ôl 18:18, 5 Awst 2008

Bwa yn Tyrus

Dinas yn Libanus yw Tyrus, Groeg: Τύρος Týros. Saif ger y môr yn ne Libanus, tua 80 km i'r de o Beirut. Gyda poblogaeth yn 117,100, hi yw'r bedwaredd dinas yn Libanus o ran maint.

Mae Tyrus yn hen ddinas Ffenicaidd, ac yn ôl mytholeg yn fan geni Europa ac Elissa (Dido). Enwyd yr Hippodrome Rhufeinig fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Yn ôl Herodotus, sefydlwyd Tyrus tua 2750 CC, ac mae cofnodion amdani yn dyddio o tua 1300 CC. Daeth yn ddinas fwyaf nerthol Ffenicia, a sefydlodd lawer o wladychfeydd; Carthago yw'r enwocaf o'r rhain. Roedd y ddinas yn nodedig am gynhyrchu lliw porffor arbennig, porffor Tyrus.

Am gynodau bu'r ddinas dan reolaeth yr Aifft, yna'n ddiweddarachg yn rhan o Ymerodraeth Persia. Yn 332 CC, cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr, brenin Macedon, wedi gwarchae o saith mis. Yr adeg honno roedd Tyrus ar ynys fechan, felly adeiladodd byddin Alecsander gob i gysylltu'r ddinas a'r tir mawr. Ad-ennillodd y ddinas ei hanibyniaeth oddi wrth yr Ymerodraeth Seleucaidd yn 126 CC. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig.

Cipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 1124, a daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf Teyrnas Jeriwsalem a phencadlys archesgobaeth Tyrus. Ad-enillwyd y ddinas i Islam yn 1291.