Afon Tafwys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B robot yn ychwanegu: ar:تيمز
Llinell 27: Llinell 27:
[[an:Río Tamesis]]
[[an:Río Tamesis]]
[[ang:Temes]]
[[ang:Temes]]
[[ar:تيمز]]
[[be:Рака Тэмза]]
[[be:Рака Тэмза]]
[[bg:Темза]]
[[bg:Темза]]

Fersiwn yn ôl 13:37, 5 Awst 2008

Map
Map

Afon yn ne Lloegr sydd yn llifo trwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds. Yna llifa'r afon am 346km (215 milltir) trwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain cyn cyrraedd Môr y Gogledd. Ystyrir bod yr afon yn aberu'n derfynol ger cefnen dywod Nore.

Afon Tafwys yw'r ffin rhwng nifer o swyddi seremonïol Lloegr mewn sawl man ar hyd ei thaith. Mae'n tarddu yn Swydd Gaerloyw (Gloucestershire) ac yna'n llifo rhwng Swydd Gaerloyw a Wiltshire, rhwng Berkshire a Swydd Rydychen, rhwng Swydd Rydychen a Swydd Buckingham, rhwng Swydd Buckingham a Surrey, rhwng Surrey a Swydd Middlesex, a rhwng Essex a Chaint.

Mae llanw'r môr yn cyrraedd rhyw 90 km ar hyd yr afon. Honna rai bod y Rhufeiniaid wedi dewis Llundain i fod yn brifddinas am mai Llundain oedd terfyn llanw'r Tafwys adeg dyfodiad y Rhufeiniaid yn 48 O.C. Heddiw mae dŵr yr afon ychydig yn hallt yn Llundain.

Hanes

Afon Tafwys yn Westminster, gan edrych tua'r de

Yn ystod oes iâ'r Pleistosen, gan ddechrau dros 600,000 o flynyddoedd yn ôl, a hyd at oes y Rhewlifiant Anglia tua 475,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd llwybr yr afon yn dra gwahanol i'r hyn ydyw heddiw. Y pryd hynny llifai afon Tafwys o Gymru i Glacton-on-Sea ac yna ymlaen dros y tir sydd heddiw'n Fôr y Gogledd i'w haber i'r Rhein.

Cred mwyafrif yr ysgolheigion y tardd yr enw Lladin ar yr afon, sef Tamesis, o'r Frythoneg Tamesa (am yr enw Lladin gweler Cesar: De Bello Gallica, Dion Cassius: xl. 3 a Thacitus: Annales xiv. 32). Ond mae Rickett & Smith (The Place Names of Britain) yn adrodd y gallai darddi o'r Proto-indo-ewropeg ta- a olygai 'llifo'. Nacolaisen a awgrymodd y tarddiad hwn gyntaf yn 1957. Mae Richard Coates wedi cynnig mai enw ar flaenau'r afon oedd Tamesis ac mai Plowonida oedd enw'r afon lle'r oedd yr afon yn rhy lydan i'w rhydio. Yn ôl ei ddamcaniaeth tardda Plowonida o eiriau Hen Ewropeg plew a nejd a olygent rywbeth yn debyg i 'afon yn llifo' neu 'afon lydan' (gweler: [1]).

Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg yr afon oedd y cysylltiad pwysicaf rhwng Llundain a San Steffan. Erbyn y ddeunawfed ganrif roedd hi'n un o ddyfrffyrdd pwysicaf y byd am mai Llundain oedd canolfan yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn ystod yr oes hon o brysurdeb mawr ar yr afon y digwyddodd un o'r trychinebau afon mwyaf dychrynllyd a welwyd ym Mhrydain, sef gwrthdaro'r llongau Princess Alice a Bywell Castle ar 3 Medi, 1878. Lladdwyd rhagor na 640 o bobl yn sgil y ddamwain.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif roedd yr hinsawdd yn oerach nag yw heddiw. Gelwir y cyfnod hwn yn Oes yr Iâ Fechan. Rhewai'r afon yn aml yn ystod y gaeaf. Cynhaliwyd ffair y "Frost Fair" am y tro cyntaf ym 1607, gan godi pebyll ar iâ'r afon a chynnal nifer o gemau gaeaf. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr hinsawdd wedi dechrau lliniaru ac er 1814 nid yw'r afon wedi llwyr rewi. At hynny, adeiladwyd Pont Llundain newydd ym 1825 â llai o bileri na'r bont flaenorol ac o ganlyniad llifai'r afon yn gyflymach na chynt gan leihau'r tebygolrwydd y byddai'r afon yn rhewi.

Gwaethygu oedd llygredd yr afon yn nhreigl y blynyddoedd. Erbyn 1858 roedd yr afon yn ddigon drewllyd i atal sesiynau Tŷ'r Cyffredin. O ganlyniad adeiladwyd carthffosydd newydd enfawr ar argloddiau'r afon.

Lleihaodd y traffig ar yr afon gyda dyfodiad y rheilffyrdd a thwf cludiant ffordd. At hynny, yn sgil gwanychu o nerth yr Ymerodraeth Brydeinig er 1914 lleihaodd amlygrwydd yr afon. Erbyn heddiw nid oes porthladd o nod yn ninas Llundain ac mae Porthladd Llundain wedi symud i Dilbury. O ganlyniad nid yw dŵr yr afon mor fudr â chynt ac mae llawer o blanhigion, pysgod ac anifeiliaid eraill wedi dychwelyd i fyw yn yr afon.