Siôn Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. 1546 - Rhagfyr 1606). Roedd yn aelod o deulu'r Conwy...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Llenor a noddwr beirdd o [[Sir Ddinbych]] yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. [[1546]] - [[Rhagfyr]] [[1606]]). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym [[Botryddan|Motryddan]], ger [[Rhuddlan]]. Ei dad oedd Siôn Conwy II, AS [[Sir y Fflint]].
Llenor a noddwr beirdd o [[Sir Ddinbych]] yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. [[1546]] - [[Rhagfyr]] [[1606]]). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym [[Botryddan|Motryddan]], ger [[Rhuddlan]]. Ei dad oedd Siôn Conwy II, [[Aelod Seneddol]] [[Sir y Fflint]].


Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi iddo gan sawl un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]], gan gynnwys [[Simwnt Fychan]] a [[Siôn Tudur]].
Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]], gan gynnwys [[Simwnt Fychan]] a [[Siôn Tudur]].


Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r [[Gymraeg]]. Mae ''Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad'' ("Clod [[Cerdd Dafod]] a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd [[Lladin]] y Sais John Case, ''Apologia Musices'' (1588). Mae'r ail draethawd, ''Definiad i Hennadirion'', yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol ''A Summons for Sleepers'' (1589).
Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r [[Gymraeg]]. Mae ''Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad'' ("Clod [[Cerdd Dafod]] a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd [[Lladin]] y Sais John Case, ''Apologia Musices'' (1588). Mae'r ail draethawd, ''Definiad i Hennadirion'', yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol ''A Summons for Sleepers'' (1589).
Llinell 12: Llinell 12:


{{DEFAULTSORT:Conwy, Sion}}
{{DEFAULTSORT:Conwy, Sion}}
[[Categori:Llenorion Cymreig]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Genedigaethau 1546]]
[[Categori:Genedigaethau 1546]]

Fersiwn yn ôl 21:58, 31 Gorffennaf 2008

Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.

Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.

Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).

Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[1]

Cyfeiriadau

  1. Enid Roberts, Gwaith Siôn Tudur, cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.