Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
* [http://www.newi.ac.uk/cy/ Gwefan swyddogol Prifysgol Glyndŵr]
* [http://www.newi.ac.uk/cy/ Gwefan swyddogol Prifysgol Glyndŵr]
* [http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7500000/newsid_7508300/7508325.stm "Enw Glyndŵr ar brifysgol newydd", Newyddion BBC Cymru]





Fersiwn yn ôl 15:42, 20 Gorffennaf 2008

Logo Prifysgol Glyndŵr

Prifysgol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Prifysgol Glyndŵr (Saesneg: Glyndŵr University). Yn cael ei hadnabod cynt fel NEWI (North East Wales Institute of Higher Education), derbyniodd statws prifysgol ar 3 Gorffennaf 2008 ar ôl bod yn aelod o Brifysgol Cymru ers 2003. Cafwyd seremoni i gyhoeddi'r brifysgol newydd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf gyda Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ei llywio ac yn derbyn gradd er anrhydedd gyntaf y brifysgol.[1] Enwir y brifysgol ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a fwriadai sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y gogledd a'r llall, ar ddechrau'r 15fed ganrif.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn aros yn aelod o Brifysgol Cymru ac yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd. Yr Is-Ganghellor yw'r Athro Michael Scott. Mae gan y brifysgol tua 8,000 o fyfyrwyr llawn-amser gyda 350 ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor.

Cyfeiriadau

  1. Wrexham Evening Leader 18.07.08

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.