Suetonius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ro:Suetonius
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ko:수에토니우스
Llinell 43: Llinell 43:
[[ja:スエトニウス]]
[[ja:スエトニウス]]
[[ka:გაიუს სვეტონიუს ტრანკვილუსი]]
[[ka:გაიუს სვეტონიუს ტრანკვილუსი]]
[[ko:수에토니우스]]
[[la:Suetonius]]
[[la:Suetonius]]
[[lt:Gajus Svetonijus Trankvilas]]
[[lt:Gajus Svetonijus Trankvilas]]

Fersiwn yn ôl 09:21, 15 Gorffennaf 2008

Mae'r erthygl yma yn trafod yr hanesydd. Am y cadfridog Rhufeinig a orchfygodd Buddug, gweler Gaius Suetonius Paulinus.

Hanesydd Rhufeinig oedd Gaius Suetonius Tranquillus (ca. 69/75 - ar ôl 130), a adnabyddir fel rheol fel Suetonius.

Ganed Suetonius yn Hippo Regius (yn awr Annaba, Algeria), yn fab i Suetonius Laetus, a fu'n ymladd dros yr ymerawdwr Otho yn erbyn Vitellius ym mrwydr gyntaf Bedriacum yn 69.

Roedd yn gyfaill i'r Seneddwr Plinius yr Ieuengaf, a thrwyddo ef daeth i sylw yr ymerodron Trajan a Hadrian. Bu'n gwasanaethu dan Plinius pan oedd Plinius yn broconswl Bithynia Pontus o 110 hyd 112. Yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd i'r ymerawdwr Hadrian, ond yn 122, diswyddodd Hadrian ef am ddangos diffyg parch i't ymerodres Vibia Sabina. Mae'n posibl ei fod wedi cael ei swydd yn ôl yn nes ymlaen.

Gweithiau

Ei waith enwocaf yw De Vita Caesarum ("Bywydau'r Cesariaid", bywgraffiadau o Iŵl Cesar, Augustus, Tiberius, Caligula, Claudius, Nero, Galba, Otho, Vitellius, Vespasian, Titus a Domitian. Heblaw ychydig lyfrau o'r bywgraffiad o Iŵl Cesar, cadwyd y cyfan o hwn, ond dim ond darnau o'i weithiau eraill sydd ar gael:

  • De Viris Illustribus ("Am ddynion enwog") yn cynnwys:
    • De Illustribus Grammaticis ("Bywydau'r Gramadegwyr")
    • De Claris Rhetoribus ("Bywydau'r Rhethregwyr")
    • De Poetis ("Bywydau'r Beirdd")
    • De historicis ("Bywydau'r Haneswyr")
  • Peri ton par' Hellesi paidion ("Gemau Groegaidd")
  • Peri blasphemion ("Rhegfeydd Groegaidd")

Gwyddir hefyd am nifer o weithiau sydd wedi eu colli.