Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
vector version available (GlobalReplace v0.6.5)
Llinell 52: Llinell 52:
* {{baner|Awstralia}} [[Awstralia]]
* {{baner|Awstralia}} [[Awstralia]]
* [[Delwedd:Flag of the Bahamas (1953-1964).svg|21px]] [[Bahamas]]
* [[Delwedd:Flag of the Bahamas (1953-1964).svg|21px]] [[Bahamas]]
* [[Delwedd:Flag of Barbados (1870–1966).png|21px]] [[Barbados]]
* [[Delwedd:Flag of Barbados (1870–1966).svg|21px]] [[Barbados]]
* {{baner|Bermiwda}} [[Bermiwda]]
* {{baner|Bermiwda}} [[Bermiwda]]
* [[Delwedd:Canadian Red Ensign 1957-1965.svg|21px]] [[Canada]]
* [[Delwedd:Canadian Red Ensign 1957-1965.svg|21px]] [[Canada]]
Llinell 118: Llinell 118:
| 13 ||align=left| [[Delwedd:Flag of Jamaica (1906-1957).svg|21px]] [[Jamaica]] || 1 || 0 || 0 || 1
| 13 ||align=left| [[Delwedd:Flag of Jamaica (1906-1957).svg|21px]] [[Jamaica]] || 1 || 0 || 0 || 1
|-
|-
|rowspan=3| 14 ||align=left| [[Delwedd:Flag of Barbados (1870–1966).png|21px]] [[Barbados]] || 0 || 1 || 0 || 1
|rowspan=3| 14 ||align=left| [[Delwedd:Flag of Barbados (1870–1966).svg|21px]] [[Barbados]] || 0 || 1 || 0 || 1
|-
|-
|align=left| [[Delwedd:Flag of Hong Kong 1876.svg|21px]] [[Hong Cong]] || 0 || 1 || 0 || 1
|align=left| [[Delwedd:Flag of Hong Kong 1876.svg|21px]] [[Hong Cong]] || 0 || 1 || 0 || 1

Fersiwn yn ôl 09:07, 14 Hydref 2017

5ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Campau91
Seremoni agoriadol30 Gorffennaf
Seremoni cau7 Awst
IV VI  >

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954 oedd y pumed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ond y tro cyntaf i'r Gymanwlad cael ei grybwyll yn nheitl y Gemau. Daeth y penderfyniad i newid yr enw mewn cyfarfod yn ystod Gemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Vancouver, Canada sef cartref y Gemau rhwng 30 Gorffennaf - 7 Awst.

Cafwyd y Gemau mwyaf hyd yma yn Vancouver gyda saith o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf; Ghana, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Cenia, Pacistan ac Wganda.

Yn ystod Gemau 1954 cafwyd y defnydd o systemau electronig i amseru'r cystadleuwyr am y tro cyntaf erioed gyda system ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio ar linell derfyn y rasys athletau.

Mae Gemau 1954 yn enwog am y 'Miracle Mile' lle roedd Roger Bannister o Loegr a John Landy o Awstralia - yr unig ddau ddyn yn y byd ar y pryd i fod wedi rhedeg milltir mewn llai na 4 munud - yn wynebu eu gilydd am y tro cyntaf. Landy oedd ar y blaen tan ytroad olaf pan garlamodd Bannister heibio i ennill mewn amser o 3'58.8" gyda Landy 0.8 eiliad ar ei ôl - y tro cyntaf erioed i ddau redwr i dorri 4 munud yr yr un ras.

Roger Bannister a John Landy

Chwaraeon

Timau yn cystadlu

Cafwyd 24 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1954 gyda'r Arfordir Euraidd, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Cenia, Pacistan ac Wganda yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Lloegr Lloegr 23 24 20 67
2 Baner Awstralia Awstralia 20 11 17 48
3 De Affrica 16 6 13 35
4 Canada 9 20 14 43
5 Baner Seland Newydd Seland Newydd 7 7 5 19
6 Baner Yr Alban Yr Alban 6 2 5 13
7 Simbabwe 3 6 3 12
8 Trinidad a Tobago 2 2 0 4
9 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 2 1 0 3
10 Nigeria 1 3 3 7
11 Baner Pacistan Pacistan 1 3 2 6
12 Baner Cymru Cymru 1 1 5 7
13 Jamaica 1 0 0 1
14 Barbados 0 1 0 1
Hong Cong 0 1 0 1
Wganda 0 1 0 1
17 Guiana Prydeinig 0 0 1 1
Gogledd Rhodesia 0 0 1 1
Cyfanswm 92 89 89 270

Medalau'r Cymry

Roedd 20 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur John Brockway Nofio 110llath ar ei gefn
Arian Malcolm Collins Bocsio Pwysau plu
Efydd Ken Jones Athletau 220llath
Efydd Don Skene Beicio 10milltir
Efydd Ron Jenkins Codi Pwysau Pwysau plu
Efydd Aileen Harding Ffensio ffoil

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Auckland
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caerdydd