Francisco Pizarro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: cs:Francisco Pizarro |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: th:ฟรันซิสโก ปีซาร์โร |
||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
[[sv:Francisco Pizarro]] |
[[sv:Francisco Pizarro]] |
||
[[sw:Francisco Pizarro]] |
[[sw:Francisco Pizarro]] |
||
[[th:ฟรันซิสโก ปีซาร์โร]] |
|||
[[tr:Francisco Pizarro]] |
[[tr:Francisco Pizarro]] |
||
[[uk:Франсиско Пісарро]] |
[[uk:Франсиско Пісарро]] |
Fersiwn yn ôl 13:16, 14 Gorffennaf 2008
Fforiwr a conquistador Sbaenig oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 1476 - 26 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.
Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.
Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.
Ar 18 Ionawr 1535, sefydlodd Pizarro ddinas Ciudad de los Reyes, a ddaeth yn fuan i'w galw yn Lima.