Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd yn yr iaith [[Pashto]], rhyfelwr [[Pashtun]] a phennaeth llwyth y [[Khattack]] oedd '''Khushal Khan Khattak''' ([[1613]] – [[25 Chwefror]] [[1689]]) ([[Pashto]]: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron [[Mughal]] yn yr 17eg ganrif; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun ([[Pathan]]) a'r [[Affganiaid]] i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr [[Hindu Kush]] yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn [[Khyber Pakhtunkhwa]], [[Pacistan]].
Bardd yn yr iaith [[Pashto]], rhyfelwr [[Pashtun]] a phennaeth llwyth y [[Khattack]] oedd '''Khushal Khan Khattak''' ([[1613]] – [[25 Chwefror]] [[1689]]) ([[Pashto]]: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron [[Mughal]] yn yr 17g; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun ([[Pathan]]) a'r [[Affganiaid]] i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr [[Hindu Kush]] yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn [[Khyber Pakhtunkhwa]], [[Pacistan]].


Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr [[Affridiaid]], un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.<ref>James W. Spain, ''The Way of the Pathans'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.</ref>
Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr [[Affridiaid]], un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.<ref>James W. Spain, ''The Way of the Pathans'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.</ref>

Fersiwn yn ôl 03:18, 13 Hydref 2017

Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (161325 Chwefror 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17g; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan.

Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]

Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]

Cyfeiriadau

  1. James W. Spain, The Way of the Pathans (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.
  2. The Way of the Pathans.