Gwyddonias: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion using AWB
→‎Hanes: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g using AWB
Llinell 20: Llinell 20:
=== Hanes ===
=== Hanes ===


Er bod gan ffuglen wyddonol ei gwreiddiau mewn llenyddiaeth llawer hŷn, y gweithiau hynaf y mae'r term yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio ydy gwaith [[Mary Shelley]], yn enwedig ''[[Frankenstein]]'' (1818) ac ''[[The Last Man]]'' (1826) <ref name="shelley">{{cite encyclopedia|url=http://www.sfhomeworld.org/exhibits/homeworld/scifi_hof.asp?articleID=62|title=Mary W. Shelley|encyclopedia=Encyclopedia of Science Fiction|author=John Clute and Peter Nicholls|publisher=Orbit/Time Warner Book Group UK|year=1993|accessdate=2007-01-17}}</ref>. Fodd bynnag, mae'r genre modern yn dechrau o ddifrif gyda dau awdur o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef y Sais [[H. G. Wells]] a'r Ffrancwr [[Jules Verne]]<ref name="verne wells">{{cite encyclopedia
Er bod gan ffuglen wyddonol ei gwreiddiau mewn llenyddiaeth llawer hŷn, y gweithiau hynaf y mae'r term yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio ydy gwaith [[Mary Shelley]], yn enwedig ''[[Frankenstein]]'' (1818) ac ''[[The Last Man]]'' (1826) <ref name="shelley">{{cite encyclopedia|url=http://www.sfhomeworld.org/exhibits/homeworld/scifi_hof.asp?articleID=62|title=Mary W. Shelley|encyclopedia=Encyclopedia of Science Fiction|author=John Clute and Peter Nicholls|publisher=Orbit/Time Warner Book Group UK|year=1993|accessdate=2007-01-17}}</ref>. Fodd bynnag, mae'r genre modern yn dechrau o ddifrif gyda dau awdur o ail hanner y 19g, sef y Sais [[H. G. Wells]] a'r Ffrancwr [[Jules Verne]]<ref name="verne wells">{{cite encyclopedia
|url=http://encarta.msn.com/encyclopedia_761563123_2/Science_Fiction.html
|url=http://encarta.msn.com/encyclopedia_761563123_2/Science_Fiction.html
|encyclopedia=Encarta Online Encyclopedia
|encyclopedia=Encarta Online Encyclopedia

Fersiwn yn ôl 20:57, 12 Hydref 2017

Llyfrau ffug-wyddonol Pwyleg

Mae Ffuglen wyddonol yn genre eang o ffuglen sy'n damcanu am effeithiau gwyddoniaeth a thechnoleg. Enw amgen am 'Ffuglen Gwyddonol' yw gwyddonias.

Mae'n annodd i ddiffinio yn union beth yw ffiniau'r term. Mae'r straeon yn aml ynglyn â'r dyfodol neu'r gofod neu effaith datblygiad newydd technolegol ar fyd heddiw. Er gall ymddangos yn unrhyw gyfrwng mae'n fwyaf amlwg ym mydoedd ffilm, nofelau a gemau cyfrifiadurol.

Categoreiddio ffuglen wyddonol

Yn fras, mae modd categoreiddio straeon ffuglen wyddonol ar hyd ystod rhwng ffuglen wyddonol 'caled' a 'meddal' Mae'r termau cyffredinol hyn yn disgrifio'r graddau y mae'r dechnoleg dychmygol sy'n ymddangos yn wyddonol, yn gredadwy ac/neu yn cael ei drin yn gyson o fewn y stori.

Yn gyffredinol, mae ffuglen wyddonol ar pen 'galed' y sbectrwm wedi'i wreiddio mewn gwyddoniaeth cyfredol y byd go iawn. Ni fydd y dechnoleg yn caniatáu pethau sy'n mynd yn groes i ddealltwriaeth gwyddonol (er enghraifft teithio'n gyflymach na golau neu drwy amser), neu os yw'r dechnoleg yn caniatáu unrhywbeth o'r fath bydd ymdrech i esbonio sut mae'n gweithio o fewn gwyddoniaeth, hyn yn oed os yw'n ddamcaniaethol yn unig. Ar y lleiaf bydd unrhyw dechnoleg ddamcaniaethol yn cael ei esbonio mewn ffordd sy'n gyson o fewn bydysawd y gwaith ffuglennol. Mewn ffuglen wyddonol galed, yn aml bydd y dechnoleg ei hunan yn elfen ganolog o'r plot, gyda'r stori'n archwilio effeithiau posib y dechnoleg ar y ddyniolaeth neu gymdetihas. Mae enghreifftiau o ffuglen wyddonol galed yn cynnwys y drioleg Mars gan Kim Stanley Robinson, a'r ffilm Gattacca.

Ar ben arall y sbectrwm, bydd y dechnoleg mewn ffuglen wyddonol meddal yn fwy ffantasïol. Os geir esboniad o gwbl o sut mae'r dechnoleg yn gweithio, bydd yn tueddu fod yn niwlog ac amwys a/neu'n dibynnu ar elfennau hollol dychmygol nad ydynt yn bodoli'r tu allan i fydysawd y gwaith ffuglenol ei hunan. Enghreifftiau adnabyddus o ffuglen wyddonol meddal yw'r gyfres deledu Doctor Who, ffilmiau Star Wars a bydysawd Marvel.

Pegynau eithafol yw'r categorïau uchod a mae'r mwyafrif o enghreifftiau o ffuglen wyddonol yn cwympo rhywle rhwng y ddau begwn. Er enghraifft, gellid dweud bod y gyfres Star Trek yn fwy 'caled' na Star Wars ond yn fwy meddal na Firefly.

O fewn y genre cyffredinol, mae nifer draddodiadau gwahanol o ran cyd-destunnau storïol. Defnyddir y term Opera Ofod (a ddaw o'r cysyniad o Opera Sebon) i ddisgrifio straeon fel Star Trek, Star Wars a nofelau The Culture gan Iain M. Banks. Fel mae'r enw'n awgyrmu, mae'r straeon epig hyn wedi'u gosod ar longau ofod, neu'n cynnwys teithio rhwng planedau, ac fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gymeriadau. Mae creuaduriaid estron o blanedau eraill yn gyffredin mewn Opera Ofod, ond ceir digon o enghreifftiau hebddynt, fel Firefly neu Battlestar Galactica.

Math arall o ffuglen wyddonol yw ffuglen ddystopaidd. Mae straeon dystopaidd yn dychmygu dyfodol dywyll i'r ddyniolaeth (neu ran ohonni), yn aml oherwydd llywodraeth totalitaraidd neu effeithiau negyddol technoleg ar gymdeithas neu'r amgylchedd. Mae enghreifftiau o'r math yma o ffuglen wyddonol yn cynnwys y ffilm Blade Runner a'r nofel Nineteen-Eighty-Four gan George Orwell. Yn gorgyffwrdd â ffuglen ddystopaidd mae ffuglen ôl-apocalyptaidd, sef ffuglen sy'n dychmygu dyfodol yn dilyn trychineb neu ddigwyddiad a newidiodd y byd yn sylweddol er gwaeth, megis trychineb amgylcheddol neu ryfel catastroffig. Mae engrhefftiau'n cynnwys y ffilimiau Mad Max neu'r gyfres gemau cyfrifiadur Fallout. Gall y gymdeithas sy'n gorosi trychineb o'r fath - os yw'n goroesi o gwbl - feddu ar nodweddion dystopaidd.

Hanes

Er bod gan ffuglen wyddonol ei gwreiddiau mewn llenyddiaeth llawer hŷn, y gweithiau hynaf y mae'r term yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio ydy gwaith Mary Shelley, yn enwedig Frankenstein (1818) ac The Last Man (1826) [1]. Fodd bynnag, mae'r genre modern yn dechrau o ddifrif gyda dau awdur o ail hanner y 19g, sef y Sais H. G. Wells a'r Ffrancwr Jules Verne[2].

Ffuglen wyddonol yn y Gymraeg

Mae'r mwyafrif o ffuglen wyddonol wreiddiol yn y Gymraeg wedi bod ar ffurf llenyddiaeth yn hytrach na ffuglen weledol. Enghraifft gynnar o lyfr Cymraeg gwyddonias yw'r nofel Wythnos Yng Nghymru Fydd (1957) gan Islwyn Ffowc Elis, sy'n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru'r dyfodol yn y flwyddyn 2033. Aeth Elis ymlaen i ysgrifennu ail nofel ffuglen wyddonol yn 1968, Y Blaned Dirion, am daith ar long ofod i blaned pell. Yn 1976 cyhoeddwyd y nofel Y Dydd Olaf gan Owain Owain, enghraifft o ffuglen ddystopaidd; enghraifft arall mwy diweddar yw yw Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. John Clute and Peter Nicholls (1993). "Mary W. Shelley". Encyclopedia of Science Fiction. Orbit/Time Warner Book Group UK. Cyrchwyd 2007-01-17.
  2. "Science Fiction". Encarta Online Encyclopedia. Microsoft. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 17 Ionawr 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)