Abaty Grace Dieu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
* Rod Cooper ''Abbeys and Priories of Wales'' (Christopher Davies, 1992) ISBN: 0-7154-07120 |
* Rod Cooper ''Abbeys and Priories of Wales'' (Christopher Davies, 1992) ISBN: 0-7154-07120 |
||
[[Categori:Tai Sistersiaidd Cymru]] |
[[Categori:Tai Sistersiaidd Cymru|Grace Dieu]] |
||
[[Categori:Sir Fynwy]] |
[[Categori:Sir Fynwy]] |
Fersiwn yn ôl 06:07, 11 Gorffennaf 2008
Abaty Sistersaidd oedd Abaty Grace Dieu, a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o Drefynwy.
Fel sefydliad estron, nid oedd yn boblogaidd gyda'r Cymry. Dinistriwyd yr abaty yn un o ymgyrchoedd Llywelyn Fawr yn 1233. Ail-sefydlwyd yr abaty ar safle newydd, ar lan Afon Trothi, 6 km i'r gorllewin o Drefynwy, erbyn 1236. Talodd Llywelyn iawndal iddynt yr un flwyddyn.
Abaty tlawd fu Grace Dieu erioed; amcangyfrifwyd ei werth fel £18 yn asesiad 1291 (o'i gymharu a £145 ar gyfer Abaty Tyndyrn gerllaw), ac yn 1335, esgymunwyd yr abad am fethu talu ei ddegwm. Adeg chwalu'r mynachlogydd, dim ond dau fynach oedd yno, a dim ond £19 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty. Nid oes dim o'i gweddillion yn weladwy.
Llyfryddiaeth
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN: 0-7154-07120