Abaty Grace Dieu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Sefydlwyd '''Abaty Grace Dieu''' ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lle... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Grace Dieu i Abaty Grace Dieu: cliriach |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:03, 11 Gorffennaf 2008
Sefydlwyd Abaty Grace Dieu ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o Drefynwy.
Fel sefydliad estron, nid oedd yn boblogaidd gyda'r Cymry. Dinistriwyd yr abaty yn un o ymgyrchoedd Llywelyn Fawr yn 1233. Ail-sefydlwyd yr abaty ar safle newydd, ar lan Afon Trothi, 6 km i'r gorllewin o Drefynwy, erbyn 1236. Talodd Llywelyn iawndal iddynt yr un flwyddyn.
Abaty tlawd fu Grace Dieu eriod; amcangyfrifwyd ei werth fel £18 yn asesiad 1291 (o'i gymharu a £145 ar gyfer [[Abaty Tyndyrn gerllaw), ac yn 1335, esgymunwyd yr abad am fethu talu ei ddegwm. Adeg chwalu'r mynachlogydd, dim ond dau fynach oedd yno, a dim ond £19 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty. Nid oes dim o'i gweddillion yn weladwy.
Llyfryddiaeth
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN: 0-7154-07120