Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fi:Quimper (Finistère)
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fi:Quimper
Llinell 32: Llinell 32:
[[et:Quimper]]
[[et:Quimper]]
[[eu:Quimper]]
[[eu:Quimper]]
[[fi:Quimper (Finistère)]]
[[fi:Quimper]]
[[fr:Quimper]]
[[fr:Quimper]]
[[ga:Kemper]]
[[ga:Kemper]]

Fersiwn yn ôl 20:56, 8 Gorffennaf 2008

Afon Oded yng nghanol Kemper

Tref yn Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas departamant Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.

Mae kemper yn Llydaweg yr un gair â "cymer" afon yng Nghymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.

Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith.

Mae ysgolion Diwan yn y dref.

Pobl enwog o Kemper