Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pt:Sítio arqueológico de Dodona
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.


Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r [[Theatr]] (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser [[Pyrrhus]] ([[297 C.C.]]-[[272 C.C.]]), yr [[acropolis]] (lliw brown), Teml [[Aphrodite]] (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, [[Temenos]] Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd [[basilica]] cynnar (rhif 16).
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r [[Theatr]] (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser [[Pyrrhus]] ([[297 CC]]-[[272 CC]]), yr [[acropolis]] (lliw brown), Teml [[Aphrodite]] (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, [[Temenos]] Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd [[basilica]] cynnar (rhif 16).


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 18:10, 8 Gorffennaf 2008

Temenos Zeus yn Dodona
Map o'r safle

Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.

Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i deml enwog Jupiter Ammon yn yr Aifft (ger tref werddon Siwa heddiw).

Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.

Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.

Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 CC-272 CC), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).

Llyfryddiaeth

  • Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)