Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: oc:Kemper |
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fi:Quimper (Finistère) |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[et:Quimper]] |
[[et:Quimper]] |
||
[[eu:Quimper]] |
[[eu:Quimper]] |
||
[[fi:Quimper (Finistère)]] |
|||
[[fr:Quimper]] |
[[fr:Quimper]] |
||
[[ga:Kemper]] |
[[ga:Kemper]] |
Fersiwn yn ôl 09:22, 7 Gorffennaf 2008
Tref yn Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas departamant Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn Llydaweg yr un gair â "cymer" afon yng Nghymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith.
Mae ysgolion Diwan yn y dref.
-
Siop cerdd a llyfrau Ar Bed Keltiek
-
Siop Keltia Musique
Pobl enwog o Kemper
- Dan Ar Braz, cerddor