37,236
golygiad
(cat, eginyn) |
Porius1 (Sgwrs | cyfraniadau) (ehangu) |
||
Rhyfel rhwng [[Gweriniaeth Rhufain]] a [[Carthago]], a ymladdwyd rhwng [[264 CC]] a [[241 CC]] oedd y '''Rhyfel Pwnig Cyntaf'''. Hwn oedd y cyntaf o dri rhyfel a elwir y [[Rhyfeloedd Pwnig]]. Daw'r enw "Pwnig" o'r term [[Lladin]] am y Carthaginiaid, ''Punici'', yn gynharach ''Poenici'', oherwydd eu bod o dras y [[Ffeniciaid]].
Dechreuodd y rhyfel yn [[Sicilia]] pan ymosododd [[Hiero II, unben Siracusa|Hiero II]], unben [[Siracusa]] ar y [[Mamertiaid]]. Gofynnodd y Mamertiaid yn gofyn am gymorth Carthago, ond wedi atal ymosodiad Sicracusa, gwrethododd y Carthaginiaid adael. Trôdd y Mamertiaid at y Rhufeiniaid am gymorth, a chroesodd y conswl Rhufeinig [[Appius Claudius Caudex]] i Sicilia gyda dwy [[Lleng Rufeinig|leng]], y tro cyntaf i fyddin Rufeinig groesi'r môr. Gorchfygodd Claudius y Carthaginiaid mewn brwydr ger Messina.
Bu llawer o'r brwydro ar ynys [[Sicilia]], a hefyd ymladd ar y môr rhwng y ddwy lynges. Wedi brwydro hir, bu raid i Carthago ofyn am delerau heddwch, a chollodd lawer o diriogaethau.
|
golygiad