Gemau'r Gymanwlad 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 89: | Llinell 89: | ||
* {{baner|Guernsey}} [[Guernsey]] |
* {{baner|Guernsey}} [[Guernsey]] |
||
* {{baner|Gaiana}} [[Gaiana]] |
* {{baner|Gaiana}} [[Gaiana]] |
||
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong |
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong.svg|21px]] [[Hong Cong]] |
||
* {{baner|India}} [[India]] |
* {{baner|India}} [[India]] |
||
Fersiwn yn ôl 02:21, 9 Hydref 2017
20ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 23 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 3 Awst | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.
Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Llwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[1] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd[2]. Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig[3].
Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phump medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[4].
Chwaraeon
|
Timau yn cystadlu
Bydd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn gyrru tîm i Gemau'r Gymanwlad, 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[5]
Medalau'r Cymry
Roed 233[6] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.
Cyfeiriadau
- ↑ "Glasgow 2014: David Katoatau claims first ever Ciribati medal published=BBC Sport". 2014-07-30.
- ↑ "Chad le Clos reaches seven medal target". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Patricia Bezzoubenko wins 6th medal at Commonwealth Games". 2014-07-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". 2014-08-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "The Gambia withdraw from Glasgow 2014". 2013-10-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help)
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Delhi Newydd |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Gold Coast,Queensland |