Gemau'r Gymanwlad 1998: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B newid hen enw, replaced: Antigua a Barbuda → Antigwa a Barbiwda (2), Belize → Belîs, Bermuda → Bermiwda (4), Brunei → Brwnei (2), Guinea → Gini (4), Guyana → Gaiana, Hong Kong → Hong Cong, Kenya → Cenia (4) using AWB |
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 90: | Llinell 90: | ||
* {{baner|Guernsey}} [[Guernsey]] |
* {{baner|Guernsey}} [[Guernsey]] |
||
* {{baner|Gaiana}} [[Gaiana]] |
* {{baner|Gaiana}} [[Gaiana]] |
||
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong |
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong.svg|21px]] [[Hong Cong]] |
||
* {{baner|India}} [[India]] |
* {{baner|India}} [[India]] |
||
Fersiwn yn ôl 02:21, 9 Hydref 2017
16eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Seremoni agoriadol | 11 Medi | ||
Seremoni cau | 21 Medi | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Prif Weinidog Malaysia Mahathir Mohamad | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 1998 oedd yr unfed tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kuala Lumpur, Malaysia oedd cartref y Gemau rhwng 11 - 21 Medi a dyma'r tro cyntaf i'r Gemau ymweld ag Asia. Llwyddodd Kuala Lumpur i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1992 yn Barcelona gan sicrhau 40 pleidlais gydag Adelaide, Awstralia yn sicrhau 25. Roedd Gemau'r Gymanwlad wedi eu beirniadu yn dilyn y penderfyniad i wrthod ceisiadau New Dehli i gynnal Gemau 1990 a 1994 gan arwain at lywodraeth Canada'n nodi bod angen i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ym mhob rhan o'r Gymanwlad ac nid i'w cyfyngu i'r gwledydd traddodiadol fel Lloegr, Awstralia, Seland Newydd a Chanada.[1]
Cafwyd campau i dimau am y tro cyntaf yn y Gemau gyda Chriced, Hoci, Pêl-rwyd a Rygbi Saith-bob-ochr yn ogystal â Bowlio Deg a Sboncen a chafwyd athletwyr o Ciribati a Tuvalu am y tro cyntaf yn ogystal â dwy wlad oedd wedi ymuno â'r Gymanwlad er nad oeddent yn gyn-diriogaethau Prydeinig; Camerŵn a Mosambic.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Cafodd Mosambic ddechrau delfrydol i'w Gemau cyntaf wrth i Maria Mutola ac Argentina Paulino gipio'r fedal aur ac arian yn ras yr 800m i ferched a dathlodd Camerŵn eu hymddangosiad cyntaf yn y gemau gyda thair medal arian a thair medal efydd. Cipiodd Lesotho a Mawrisiws eu medalau aur cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Thabiso Paul Moqhal ennill y Marathon i Lesotho gyda Richard Sunee yn dod yn fuddugol yn y sgwâr bocsio i Mawrisiws.
Gyda champau i dimau yn ymddangos am y tro cyntaf, cafwyd medal aur i dîm criced De Affrica, Crysau Duon Seland Newydd oedd yn fuddugol yn y rygbi saith-pob-ochr tra bo Awstralia'n fuddugol yn y pêl-rwyd yn ogystal â chystadlaethau hoci'r dynion a'r merched.
Ar y trac Athletau llwyddodd Atto Boldon o Trinidad a Tobago i dorri record y Gymanwlad yn y 100m i ddynion wrth ennill y fedal aur mewn 9.88 eiliad gyda Frankie Fredericks o Namibia, gasglodd y fedal arian, hefyd yn torri 10 eiliad wrth orffen mewn amser o 9.96 eiliad. Obadele Thompson o Barbados gafodd yr efydd gydag amser o 10.00 eiliad ar ei ben.[2]
Torrodd Iwan Thomas o Gymru record 400m y Gymanwlad wrth ennill y fedal aur mewn amser o 44.52 eiliad gan ychwanegu pencampwriaeth y Gymanwlad i'w fedal aur o Bencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop.[3]
Casglodd Bradley Wiggins o Loegr medal cyntaf ei yrfa beicio wrth gasglu'r fedal arian fel aelod o dîm ras yn erbyn y cloc Lloegr ac yn y pwll nofio gwnaeth Ian Thorpe o Awstralia ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau wrth gasglu pedair medal aur yn y 200m dull rhydd, 400m dull rhydd, 4x100m dull rhydd a 4x200m dull rhydd.
Chwaraeon
|
Timau yn cystadlu
Cafwyd 70 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1998 gyda Camerŵn, Namibia, Montserrat a Mosambic yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 82 | 61 | 57 | 200 |
2 | Lloegr | 36 | 47 | 52 | 135 |
3 | Canada | 30 | 31 | 40 | 101 |
4 | Malaysia | 10 | 14 | 12 | 36 |
5 | De Affrica | 9 | 11 | 14 | 34 |
6 | Seland Newydd | 8 | 6 | 20 | 34 |
7 | India | 7 | 10 | 8 | 25 |
8 | Cenia | 7 | 5 | 4 | 16 |
9 | Jamaica | 4 | 2 | 0 | 6 |
10 | Cymru | 3 | 4 | 8 | 15 |
11 | Yr Alban | 3 | 2 | 7 | 12 |
12 | Nawrw | 3 | 0 | 0 | 3 |
13 | Gogledd Iwerddon | 2 | 1 | 1 | 4 |
14 | Simbabwe | 2 | 0 | 3 | 5 |
15 | Ghana | 1 | 1 | 3 | 5 |
16 | Mawrisiws | 1 | 1 | 2 | 4 |
17 | Cyprus | 1 | 1 | 1 | 3 |
Tansanïa | 1 | 1 | 1 | 3 | |
Trinidad a Tobago | 1 | 1 | 1 | 3 | |
20 | Bahamas | 1 | 1 | 0 | 2 |
Mosambic | 1 | 1 | 0 | 2 | |
22 | Barbados | 1 | 0 | 2 | 3 |
23 | Lesotho | 1 | 0 | 0 | 1 |
24 | Camerŵn | 0 | 3 | 3 | 6 |
25 | Namibia | 0 | 2 | 1 | 3 |
26 | Seychelles | 0 | 2 | 0 | 2 |
27 | Sri Lanca | 0 | 1 | 1 | 2 |
28 | Bermiwda | 0 | 1 | 0 | 1 |
Ffiji | 0 | 1 | 0 | 1 | |
Ynys Manaw | 0 | 1 | 0 | 1 | |
Pacistan | 0 | 1 | 0 | 1 | |
32 | Papua Gini Newydd | 0 | 0 | 1 | 1 |
Wganda | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Sambia | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Cyfanswm | 215 | 215 | 245 | 675 |
Medalau'r Cymry
Roedd 105 aelod yn nhîm Cymru.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Iwan Thomas | Athletau | 400m |
Aur | Kelly Morgan | Badminton | Senglau |
Aur | Desmond Davies | Saethu | Skeet |
Arian | Christian Malcolm | Athletau | 200m |
Arian | David Morgan | Codi Pwysau | 77 kg (Cipiad) |
Arian | William Thomas a Robert Weale |
Bowlio Lawnt | Parau |
Arian | John Price | Bowlio Lawnt | Senglau |
Efydd | Iwan Thomas Jamie Baulch Paul Gray a Doug Turner |
Athletau | 4 x 400m |
Efydd | Shaun Pickering | Athletau | Taflu Pwysau |
Efydd | Kevin Evans | Bocsio | 91 kg |
Efydd | Rita Jones ac Anne Sutherland |
Bowlio Lawnt | Parau |
Efydd | Mark Anstey David Wilkins Neil Rees ac Ian Slade |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd |
Efydd | Tony Morgan | Codi Pwysau | 69 kg (Cipiad) |
Efydd | Christopher Hockley a David Davies |
Saethu | Reiffl bôr llawn |
Efydd | Alex Gough | Sboncen | Senglau |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Victoria |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Manceinion |