Gemau'r Gymanwlad 2010: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 101: | Llinell 101: | ||
|valign=top width="230px"| |
|valign=top width="230px"| |
||
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong |
* [[Delwedd:Flag of Hong Kong.svg|21px]] [[Hong Cong]] |
||
* {{baner|India}} [[India]] |
* {{baner|India}} [[India]] |
||
* {{baner|Jamaica}} [[Jamaica]] |
* {{baner|Jamaica}} [[Jamaica]] |
Fersiwn yn ôl 02:12, 9 Hydref 2017
19eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 21 | ||
Seremoni agoriadol | 3 Hydref | ||
Seremoni cau | 14 Hydref | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Tywysog Cymru | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2010 oedd y pedwerydd tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Delhi Newydd, India oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 14 Hydref. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Jamaica ym mis Tachwedd 2003 gyda Delhi Newydd yn ennill y bleidlais gyda 46 pleidlais i 22 Hamilton, Ontario, Canada.
Cyflwynyd Tenis i'r Gemau am y tro cyntaf ond bu raid i'r trefnwyr beidio cynnwys Triathlon gan nad oedd unrhyw leoliad addas ar gyfer y cymal nofio[1]. Er bod galw am ail gyflwyno Criced nid oedd Bwrdd Criced India'n awyddus i ddilyn cais y trefnwyr am gystadleuaeth 20Pelawd yn hytrach na chystadleuaeth un dydd[2].
Y tîm cartref oedd â'r nifer fwyaf o athletwyr, gyda 495 yn cynrychioli India a Tuvalu oedd â'r tîm lleiaf gyda dim ond tri athletwr.
Cafwyd athletwyr o Rwanda am y tro cyntaf ers i'r wlad ymuno â'r Gymanwlad ym 2009[3] ond ni chafodd Ffiji gystadlu gan eu bod wedi eu gwahardd o'r Gymanwlad[4].
Uchafbwyntiau'r Gemau
Roedd y Gemau'n lwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i India orffen yn ail yn y tabl medalau - eu safle gorau erioed - gan gynnwys 14 medal aur yn y Saethu a 10 medal aur yn y Reslo. Casglodd India eu medalau aur cyntaf ar y trac a chae Athletau ers 1958 wrth i'r merched 4x400m guro Lloegr a Chanada ac yng nghystadleuaeth y ddisgen llwyddodd Krishna Poonia, Harvant Kaur a Seema Antil ennill aur, arian ac efydd i'r tîm cartref.
Daeth perfformiad gorau Cymru yn y 400m dros y clwydi wrth i Dai Greene gipio'r fedal aur a Rhys Williams y fedal efydd[5].
Chwaraeon
|
Timau yn cystadlu
Cafwyd 71 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2010 gyda Rwanda yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 74 | 55 | 48 | 177 |
2 | India | 38 | 27 | 36 | 101 |
3 | Loegr | 37 | 59 | 46 | 142 |
4 | Canada | 26 | 17 | 32 | 75 |
5 | Cenia | 12 | 11 | 10 | 33 |
5 | De Affrica | 12 | 11 | 10 | 33 |
7 | Malaysia | 12 | 10 | 13 | 35 |
8 | Singapôr | 11 | 11 | 9 | 31 |
9 | Nigeria | 11 | 10 | 14 | 35 |
10 | Yr Alban | 9 | 10 | 7 | 26 |
11 | Seland Newydd | 6 | 22 | 8 | 36 |
12 | Cyprus | 4 | 3 | 5 | 12 |
13 | Cymru | 3[6] | 6 | 10 | 19 |
14 | Gogledd Iwerddon | 3 | 3 | 4 | 10 |
15 | Samoa | 3 | 0 | 1 | 4 |
16 | Jamaica | 2 | 4 | 1 | 7 |
17 | Pacistan | 2 | 1 | 2 | 5 |
18 | Wganda | 2 | 0 | 0 | 2 |
19 | Bahamas | 1 | 1 | 3 | 5 |
20 | Botswana | 1 | 1 | 2 | 4 |
21 | Nawrw | 1 | 1 | 0 | 2 |
22 | Ynysoedd Caiman | 1 | 0 | 0 | 1 |
22 | St Vincent | 1 | 0 | 0 | 1 |
24 | Trinidad a Tobago | 0 | 4 | 2 | 6 |
25 | Camerŵn | 0 | 2 | 4 | 6 |
26 | Ghana | 0 | 1 | 3 | 4 |
27 | Namibia | 0 | 1 | 2 | 3 |
28 | Sri Lanca | 0 | 1 | 1 | 2 |
29 | Papua Gini Newydd | 0 | 1 | 0 | 1 |
29 | Seychelles | 0 | 1 | 0 | 1 |
31 | Ynys Manaw | 0 | 0 | 2 | 2 |
31 | Mawrisiws | 0 | 0 | 2 | 2 |
31 | Tonga | 0 | 0 | 2 | 2 |
34 | Gaiana | 0 | 0 | 1 | 1 |
34 | Bangladesh | 0 | 0 | 1 | 1 |
34 | Sant Lwsia | 0 | 0 | 1 | 1 |
Cyfanswm | 245 | 244 | 254 | 743 |
Medalau'r Cymry
Roedd 175 aelod yn nhîm Cymru ac yn ei seithfed ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad llwyddodd Robert Weale i ennill ei ail fedal aur, 24 mlynedd ar ôl ennill ei fedal aur cyntaf yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1986.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Dai Greene | Athletau | 400m Dros y clwydi |
Aur | Sean McGoldrick[6] | Bocsio | 56 kg |
Aur | Robert Weale | Bowlio Lawnt | Senglau |
Arian | Carys Parry | Athletau | Taflu'r morthwyl |
Arian | Jenny McLoughlin | Athletau | 100m T37 |
Arian | Becky James | Beicio | Ras wibio unigol |
Arian | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 63 kg |
Arian | Francesca Jones | Gymnasteg (Rhythmig) | Cylch |
Arian | Jazmin Carlin | Nofio | 200m Dull rhydd |
Efydd | Rhys Williams | Athletau | 400m Dros y clwydi |
Efydd | Christian Malcolm | Athletau | 200m |
Efydd | Becky James | Beicio | Ras yn erbyn y cloc |
Efydd | Keiron Harding | Bocsio | 75 kg |
Efydd | Jermaine Asare | Bocsio | 81 kg |
Efydd | Annwen Butten a Hannah Smith |
Bowlio Lawnt | Parau |
Efydd | Jazmin Carlin | Nofio | 400m Dull rhydd |
Efydd | Georgia Davies | Nofio | 50m Dull cefn |
Efydd | Jemma Lowe | Nofio | 100m Dull pili pala |
Efydd | Johanne Brekke | Saethu | Reiffl 50m tra'n gorwedd |
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.highbeam.com/doc/1G1-183090979.html
- ↑ http://www.espncricinfo.com/ci/content/story/234191.html
- ↑ http://www.thecgf.com/countries/intro.asp?loc=RWA
- ↑ http://edition.cnn.com/2009/WORLD/asiapcf/09/01/fiji.commonwealth/
- ↑ http://www.thecgf.com/games/results.asp
- ↑ 6.0 6.1 http://www.bbc.co.uk/sport/0/boxing/13552023
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Melbourne |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Glasgow |