Ska: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Ychwanegu: sh:Ska
B categoriau
Llinell 1: Llinell 1:
Math o gerddoriaeth sy'n hanu o [[Jamaica]] yw '''Ska''', a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au. Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadau Sbaenaidd/Caribïaidd gyda rhythmau Affricanaidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.
Math o gerddoriaeth sy'n hanu o [[Jamaica]] yw '''Ska''', a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au. [[Cerddoriaeth]] ydyw sy'n cyfuno dylanwadau [[Sbaen]]aidd/[[Caribï]]aidd gyda rhythmau [[Affrica]]naidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.


===Cyfnodau===
Ceir tri chyfnod o Ska:
Ceir tri chyfnod o Ska:


Llinell 8: Llinell 9:


'''3. [[California]]; 1995+''' - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (''distortion'') yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand [[No Doubt]] a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd [[Reel Big Fish]], [[Less Than Jake]] a'r [[Mighty Mighty Bosstones]].
'''3. [[California]]; 1995+''' - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (''distortion'') yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand [[No Doubt]] a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd [[Reel Big Fish]], [[Less Than Jake]] a'r [[Mighty Mighty Bosstones]].



[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Mathau o gerddoriaeth]]
[[Categori:Jamaica]]


[[als:Ska]]
[[als:Ska]]

Fersiwn yn ôl 14:17, 2 Gorffennaf 2008

Math o gerddoriaeth sy'n hanu o Jamaica yw Ska, a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au. Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadau Sbaenaidd/Caribïaidd gyda rhythmau Affricanaidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.

Cyfnodau

Ceir tri chyfnod o Ska:

1. Jamaica; 1960au - Cerddoriaeth debyg i'r hyn a adnabyddir heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw fel Prince Buster, Skatalites ar Maytals.

2. Lloegr; 1980au - Caiff y cyfnod hwn hefyd ei adnabod fel 2 Tone, ar ôl y cwmni recordiau (2 Tone) a oedd yn flaenllaw gyda'r bandiau hyn. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Ymysg y prif artistiaid roedd The Specials, The Selecter, Madness a Bad Manners. Roedd y bandiau'n hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan Y Specials yn nodi cyfnod 2 Tone a dechrau cyfnod o derfysg yn Lloegr. Yn yr iaith Gymraeg, dilynwyd yr un arddull gan grŵp Y Ficar o'r Felinheli.

3. California; 1995+ - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (distortion) yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand No Doubt a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd Reel Big Fish, Less Than Jake a'r Mighty Mighty Bosstones.