Awstin, archesgob Caergaint: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hu:Szent Augusztin
Llinell 20: Llinell 20:
[[fr:Augustin de Cantorbéry]]
[[fr:Augustin de Cantorbéry]]
[[gl:Agostiño de Canterbury]]
[[gl:Agostiño de Canterbury]]
[[hu:Szent Augusztin]]
[[it:Agostino di Canterbury]]
[[it:Agostino di Canterbury]]
[[ja:カンタベリーのアウグスティヌス]]
[[ja:カンタベリーのアウグスティヌス]]

Fersiwn yn ôl 02:17, 2 Gorffennaf 2008

Am y sant a thad eglwysig cynharach o'r un enw, gweler Awstin o Hippo.

Eglwyswr o Eidalwr a sant oedd Awstin (m. 604), archesgob cyntaf Caergaint.

Yn ôl traddodiad, gwelodd y Pab Grigor I gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.

Pan gyrhaeddodd Awstin a deugain o fynachod dde Prydain, gan lanio yn Thanet, cawsant groeso twymgalon gan y brenin Ethelbert, brenin Caint, am fod ei wraig Bertha eisoes yn Gristion. Yn ogystal â throi'r brenin yn Gristion dywedir iddo fedyddio mil o bobl yn Afon Swale. Yn 597 aeth i Arles, Ffrainc, lle cafodd ei gysegru'n archesgob yr Eingl-Sacsoniaid.

Ond llai twymgalon oedd ei groeso gan y Brythoniaid Cristnogol, er iddo ceisio perswadio eu harweinyddion Cristnogol, mewn synod yn Aust ar lannau Afon Hafren, i dderbyn awdurdod Eglwys Rufain. Doedd y Cymry a Brythoniaid Cernyw ddim yn barod i ildio eu hannibyniaeth mewn materion ysbrydol, yn arbennig gan fod Awstin yn ceisio sefydlu goruchafiaeth Caergaint ar Brydain gyfan.

Bu farw Awstin yn 604 ac yn 612 cludwyd ei weddillion yr holl ffordd i Rufain i'w claddu yno.