Epigram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw '... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
:'Nôl blino'n treiglo pob tref |
:'Nôl blino'n treiglo pob tref |
||
:Teg edrych tuag adref.<ref>''Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol'', rhif 101.<ref> |
:Teg edrych tuag adref.<ref>''Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol'', rhif 101.</ref> |
||
[[Rhys Cain]] (m. 1614) ar garu'n ofer: |
[[Rhys Cain]] (m. 1614) ar garu'n ofer: |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
:A ŵyr frath newyn i'r fron |
:A ŵyr frath newyn i'r fron |
||
:A ry bris ar y briwsion.<ref>''ibid.'', rhif 1246.</ref> |
:A ry bris ar y briwsion.<ref>''ibid.'', rhif 1246.</ref> |
||
===Cyfeiriadau=== |
|||
<references/> |
|||
===Llenyddiaeth=== |
===Llenyddiaeth=== |
Fersiwn yn ôl 20:42, 1 Gorffennaf 2008
Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw epigram. Gair Groeg yw epigam sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion Groeg yr Henfyd y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr haiku yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.
Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio beddargraffiadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys Y Flodeugerdd Roeg. Ymledaenodd yr epigram i Rufain a daeth beirdd fel Martial yn feistri arno.
Yng Nghymru gellid dweud fod naws yr epigram yn elfen bwysig ym marddoniaeth gynnar y Cymry, yn enwedig yn y canu englynol, ond er y ceir llinellau a chwpledi sy'n epigramau mewn llawer o ganu y Cywyddwyr, ni ddatblygodd yn ffurf ar wahân tan y ddeunawfed ganrif. Perthyn yn agos i'r epigram y mae'r diharebion Cymraeg hefyd. Heddiw mae'n parhau i fod yn ffurf boblogaidd gan feirdd Cymraeg ac mae'n un o gystadlaethau arferol Talwrn y Beirdd.
Rhai enghreifftiau
Dyma ychydig o enghreifftiau o epigramau Cymraeg dros y blynyddoedd, gan gychwyn gyda chwpled enwog gan Llawdden (tua 1450-1480):
- 'Nôl blino'n treiglo pob tref
- Teg edrych tuag adref.[1]
Rhys Cain (m. 1614) ar garu'n ofer:
- Cur dwfn yw cariad ofer.[2]
Saunders Lewis yn y ddrama Blodeuwedd:
- Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.[3]
Gerallt Lloyd Owen ar brofiad a chyfiawnder:
- A ŵyr frath newyn i'r fron
- A ry bris ar y briwsion.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol, rhif 101.
- ↑ ibid., rhif 506.
- ↑ ibid., rhif 794.
- ↑ ibid., rhif 1246.
Llenyddiaeth
- Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).