Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: cs, hu, tr Tynnu: es |
B robot yn ychwanegu: pt:Sítio arqueológico de Dodona |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[nl:Dodona]] |
[[nl:Dodona]] |
||
[[pl:Dodona]] |
[[pl:Dodona]] |
||
[[pt:Sítio arqueológico de Dodona]] |
|||
[[ro:Dodona]] |
[[ro:Dodona]] |
||
[[ru:Додона]] |
[[ru:Додона]] |
Fersiwn yn ôl 08:26, 1 Gorffennaf 2008
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i deml enwog Jupiter Ammon yn yr Aifft (ger tref werddon Siwa heddiw).
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)