Nanga Parbat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: eo:Nanga Parbat |
B robot yn ychwanegu: kn:ನಂಗಾ ಪರ್ಬತ್ |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
[[it:Nanga Parbat]] |
[[it:Nanga Parbat]] |
||
[[ja:ナンガ・パルバット]] |
[[ja:ナンガ・パルバット]] |
||
[[kn:ನಂಗಾ ಪರ್ಬತ್]] |
|||
[[ko:낭가파르밧 산]] |
[[ko:낭가파르밧 산]] |
||
[[lt:Nanga Parbatas]] |
[[lt:Nanga Parbatas]] |
Fersiwn yn ôl 16:10, 30 Mehefin 2008
Nanga Parbat Himalaya | |
---|---|
Llun | Nanga Parbat o "Faes y Tylwyth Teg" |
Uchder | 8,125m |
Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
Gwlad | Pacistan |
Nanga Parbat (gelwir hefyd Diamir) yw'r mynydd ail-uchaf ym Mhacistan a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith Wrdw/Hindi. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif lladdwyd nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr Himalaya.
Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid Albert F. Mummery uchder o bron 7,000 m, ond lladdwyd Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dimau Almaenig, ond methu wnaeth y cafan a lladdwyd dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar 3 Gorffennaf, 1953 gan fynyddwr o Awstria, Hermann Buhl. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.
Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, Toni Kinshofer, S. Löw, ac A. Mannhardt. Yn 1970 cyrhaeddodd Reinhold a Günther Messner y copa; ond lladdwyd Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, Lilliane Barrard o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.
Y 14 copa dros 8,000 medr |
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |