Canwyll y Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Teitl italig}}
[[Delwedd:Canwyll y Cymry 1807.png|bawd|Blaenddalen fersiwn 1807 o Ganwyll y Cymry; argraffwyd gan J. Daniel, Caerfyrddin.]]
[[Delwedd:Canwyll y Cymry 1807.png|bawd|Blaenddalen fersiwn 1807 o Ganwyll y Cymry; argraffwyd gan J. Daniel, Caerfyrddin.]]
Llyfr o waith [[Rhys Prichard]] (Y Ficer Prichard) yw '''''Canwyll y Cymry'''''. Gyda'r [[Beibl]] a [[Taith y Pererin]], roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
Llyfr o waith [[Rhys Prichard]] (Y Ficer Prichard) yw '''''Canwyll y Cymry'''''. Gyda'r [[Beibl]] a [[Taith y Pererin]], roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.

Fersiwn yn ôl 17:58, 5 Hydref 2017

Blaenddalen fersiwn 1807 o Ganwyll y Cymry; argraffwyd gan J. Daniel, Caerfyrddin.

Llyfr o waith Rhys Prichard (Y Ficer Prichard) yw Canwyll y Cymry. Gyda'r Beibl a Taith y Pererin, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.

Ysgrifennodd y Ficer Prichard (1579? - 1644), ficer Llanymddyfri, lawer o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol. Ni chyhoeddwyd hwy tan 1659, pan gyhoeddodd Stephen Hughes y rhan gyntaf. Tua dechrau 1660 cyhoeddodd yr ail ran; a rhan arall yn 1670. Yn 1672 cyhoeddodd Stephen Hughes bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ond hyd yma nid oedd wedi cael y teitl "Canwyll y Cymru". Cafodd y teitl yma yn 1681, pan gyhoeddodd Stephen Hughes argraffiad newydd gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr.

Mae'r farddoniaeth wedi ei hanelu at y werin yn hytrach na dysgedigion, ac yn annog byw bywyd Cristionogol yn wyneb sicrwydd angau:

Ni cheir gweled mwy on hôl
nag ôl neidr ar y ddôl,
neu ôl llong aeth dros y tonnau,
neu ôl saeth mewn awyr denau.

Llyfryddiaeth

  • D. Gwenallt. Jones Y Ficer Prichard a "Canwyll y Cymry" (Cwmni'r "Llan" a Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, [1946])
  • Siwan Non Richards Y Ficer Prichard (Cyfres Llên y llenor; Caernarfon : Gwasg Pantycelyn, 1994) ISBN 1874786321

Cysylltiad allanol