Thebai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Removing: lmo:Thebes, Greece |
B robot yn ychwanegu: id:Thebes, Yunani |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[he:תבאי]] |
[[he:תבאי]] |
||
[[hu:Thébai]] |
[[hu:Thébai]] |
||
[[id:Thebes, Yunani]] |
|||
[[it:Tebe (Grecia)]] |
[[it:Tebe (Grecia)]] |
||
[[ja:テーバイ]] |
[[ja:テーバイ]] |
Fersiwn yn ôl 01:52, 29 Mehefin 2008
- Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler Thebes (Yr Aifft). Gweler hefyd Thebes.
Roedd Thebai (Hen Roeg: Θῆβαι — Thēbai; hefyd Thebes) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6ed ganrif CC. daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC., gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC.. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC. gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.
Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC. enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.