Cytsain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot Ychwanegu: kk:Дауыссыз дыбыстар |
B robot yn ychwanegu: hi:व्यंजन वर्ण |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
[[gl:Consoante]] |
[[gl:Consoante]] |
||
[[he:עיצור]] |
[[he:עיצור]] |
||
[[hi:व्यंजन वर्ण]] |
|||
[[hr:Suglasnik]] |
[[hr:Suglasnik]] |
||
[[ht:Konsòn]] |
[[ht:Konsòn]] |
Fersiwn yn ôl 20:59, 28 Mehefin 2008
Sain a gynhyrchir drwy gau neu drwy gulhau llif yr awyr sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd y llwybr lleisiol yw cytsain. Gan fod yna fwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn y wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull sgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Gymdeithas Seineg Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:
- dull cynanu: sut mae'r cytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal llif yr awyr yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio llif yr awyr yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
- lle cynanu: lle ar hyd y llwybr lleisiol y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod y genau
- os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais
- amser dechrau lleisio
- dull y mae'r awyr yn llifo
- hyd y gytsain
Ceir hefyd cytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn y llwybr lleisiol sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).
Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.
Y cytseiniau yn Gymraeg yw:
- b, c ch, d, dd, f, ff (yr un sain â ph), g, ng, h, l, ll, m, n, p, ph (yr un sain ag ff), r, rh, s, t, th.