Bleddyn ap Cynfyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) creu |
+ en fr |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
[[Category:Cymry enwog]] |
[[Category:Cymry enwog]] |
||
[[en:Bleddyn ap Cynfyn]] |
|||
[[fr:Bleddyn ap Cynfyn]] |
Fersiwn yn ôl 17:41, 9 Tachwedd 2005
Bleddyn ap Cynfyn (bu farw 1075), Tywysog Gwynedd a Powys.
Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.
Fe geisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth. Fe'i lladdwyd yn 1075 gan Rhys ab Owain ag uchelwyr Ystrad Tywi, llofruddiaeth a barodd fraw trwy Gymru. Yn ôl Brut y Tywysogion yr oedd Bleddyn yn frenin daionus ac yn gyfrifol am ddiweddaru cyfraith Hywel Dda.