Sacsoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: cs:Sasové |
B robot yn ychwanegu: la:Saxones |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[it:Sassoni]] |
[[it:Sassoni]] |
||
[[ja:サクソン人]] |
[[ja:サクソン人]] |
||
[[la:Saxones]] |
|||
[[lt:Saksai]] |
[[lt:Saksai]] |
||
[[nds:Sassen (Volk)]] |
[[nds:Sassen (Volk)]] |
Fersiwn yn ôl 20:24, 19 Mehefin 2008
Yn wreiddiol, roedd y Sacsoniaid yn bobl niferus a nerthol oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd heddiw. Roedd Ptolemy yn sôn amdanynt pan yn siarad am Jutland (rhan o Ddenmarc heddiw) a'r ardal sydd yn Schleswig-Holstein, y talaith mwyaf gogleddol yr Almaen heddiw. Mae'n ymddangos fod yr enw Sacson yn dod o'r Sax, math o gleddyf yr oeddynt yn ei defnyddio.
Y Sacsoniaid ym Mhrydain
Aeth rhai Sacsoniaid gyda pobl Anglia (sef yr Eingl), Jutland (yr Iwys) a Ffrisia i Brydain yn ystod yr Oesodd Canol Cynnar. Roedd teyrnasoedd y Sacsoniaid yn ne-ddwyrain Lloegr, ac enw'r Sacsoniaid sydd wedi ei gadw hyd heddiw yn Essex, Sussex a Wessex (sef teyrnasoedd y Sacsoniaid Dwyreinol, y Sacsoniaid Deheuol a'r Sacsoniaid Gorllewinol). Yn ddiweddarach daeth y Sacsoniaid, yr Eingl ac eraill yn un genedl, a defnyddir yr enw 'Eingl-Sacsoniaid' amdanynt. Ymhen amser unwyd Lloegr yn un deyrnas. Daw'r enw Cymraeg Saeson, fel y gair am y Saeson yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, o'r enw 'Sacsoniaid'. Mae eu henw amdanynt eu hunain, English, yn dod o'r enw 'Angliaid' (Eingl).
Y Sacsoniaid yn yr Almaen
Ar y cyfandir yn ystod y 8fed ganrif codwyd Dugiaeth y Saeson. Roedd y Sacsoniaid yn amharod i dderbyn Cristnogol am amser hir, ond gorfododd Siarlymaen (772-804) hwy i ddod yn Gristionogion ar ôl eu gorchfygu mewn rhyfel a lladd llawer ohonynt. Dinistriwyd Irminsul eu coeden sanctaidd.
O dan reolaeth y Carolingiaid roedd rhaid i'r Saeson talu teyrnged, fel y bobloedd Slafiaidd, megis yr Abodrites a'r Wend. Beth bynnag, daeth Sacson i fod yn frenin hefyd (Harri yr Adarwr ym 919) ac yn ystod y 10fed ganrif daeth Sacson yn ymerawdwr cyntaf yr Almaen (Otto I, y Mawr). Daeth ei rheolaeth i ben ym 1024 a rhanwyd y wlad ym 1180 pan oedd Harri y Llew, ei ŵyr, yn gwrthod dilyn yr Ymerawdwr Frederick Barbarossa i frwydro yn yr Eidal.
Mae ardal o'r enw Sachsen (sef Gwlad y Sacsoniaid) yn ne-ddwyrain yr Almaen. Cafodd yr ardal hon ei henw pan gipiodd Margraf Meissen diriogaeth y Sacsoniaid ym 1423 a newidiodd ef enw y cyfan o'i diriogaethau i Sachsen am fod y teitl Dug y Sacsoniaid yn swnio'n fwy nerthol na'i deitl gwreiddiol. Oherwydd hyn nid yw'r "Sacsoniaid" modern, yn yr ysytyr o drigolion Sacsoni, yn cyfateb yn union i'r hen lwyth.
Heddiw, mae gan dair o daleithiau'r Almaen yr enw "Sacson" yn rhan o'u henwau nhw: Niedersachsen yn y gogledd-orllewin, Sachsen Anhalt yn y canolbarth a Sachsen yn y de-ddwyrain.