Corhwyaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: ca:Xarxet comú |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
| delwedd = Corhwyaden.jpg |
| delwedd = Corhwyaden.jpg |
||
| maint_delwedd = 225px |
| maint_delwedd = 225px |
||
| neges_delwedd = |
| neges_delwedd = Ceiliog |
||
| regnum = [[Animalia]] |
| regnum = [[Animalia]] |
||
| phylum = [[Chordata]] |
| phylum = [[Chordata]] |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
| ordo = [[Anseriformes]] |
| ordo = [[Anseriformes]] |
||
| familia = [[Anatidae]] |
| familia = [[Anatidae]] |
||
| genus = '' |
| genus = ''[[Anas]]'' |
||
| species = '''''A. crecca''''' |
| species = '''''A. crecca''''' |
||
| enw_deuenwol = ''Anas crecca'' |
| enw_deuenwol = ''Anas crecca'' |
||
| awdurdod_deuenwol = |
| awdurdod_deuenwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758 |
||
}} |
}} |
||
[[Delwedd:Anas crecca dis.PNG|bawd|250px|Y Gorhwyaden yn Ewrop ac Asia |
[[Delwedd:Anas crecca dis.PNG|bawd|250px|Y Gorhwyaden yn Ewrop ac Asia]] |
||
Mae'r '''Gorhwyaden''' ('''''Anas crecca''''') yn un o'r [[hwyaid]] mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd [[Ewrop]] and [[Asia]]. Yng [[Gogledd America|Ngogledd America]] mae ffurf debyg iawn |
Mae'r '''Gorhwyaden''' ('''''Anas crecca''''') yn un o'r [[hwyaden|hwyaid]] mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd [[Ewrop]] and [[Asia]]. Yng [[Gogledd America|Ngogledd America]] mae ffurf debyg iawn, y [[Corhwyaden Asgell-werdd|Gorhwyaden Asgell-werdd]] ''Anas carolinensis'', oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar. |
||
Mae'r hwyaden yma yn [[aderyn mudol]] ac weithiau yn symud cyn belled ag [[Affrica]] yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau. |
Mae'r hwyaden yma yn [[aderyn mudol]] ac weithiau yn symud cyn belled ag [[Affrica]] yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau. |
Fersiwn yn ôl 16:39, 18 Mehefin 2008
Corhwyaden | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Anas |
Rhywogaeth: | A. crecca |
Enw deuenwol | |
Anas crecca Linnaeus, 1758 |
Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn, y Gorhwyaden Asgell-werdd Anas carolinensis, oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar.
Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau.
Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion.
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden.
Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd.