Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Gwnaeth Cadwallon gytundeb a [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Gwnaeth Cadwallon gytundeb a [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.


Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol llawddwyd Cadwallon mewn brwydr ger [[Hexham]] yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef mewn brwydr ger [[Hexham]] yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 18:34, 1 Tachwedd 2005

Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.

Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosodwyd ar Wynedd gan Edwin o Deira (Northumbria) heddiw, a gyrhaeddodd cyn belled ag Ynys Môn a gorfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin cyn hyn wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".

Gwnaeth Cadwallon gytundeb a Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef mewn brwydr ger Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)