Hywel Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 29: Llinell 29:
* ''[[Crap ar Farddoni]]'' (gyda [[Catrin Dafydd (llenores)|Catrin Dafydd]], [[Eurig Salisbury]], [[Aneirin Karadog]], [[Iwan Rhys]]) Hydref 2006 ([[Gwasg Carreg Gwalch]])
* ''[[Crap ar Farddoni]]'' (gyda [[Catrin Dafydd (llenores)|Catrin Dafydd]], [[Eurig Salisbury]], [[Aneirin Karadog]], [[Iwan Rhys]]) Hydref 2006 ([[Gwasg Carreg Gwalch]])
* ''Banerog'', Ebrill 2009 ([[Y Lolfa]])
* ''Banerog'', Ebrill 2009 ([[Y Lolfa]])
* Llif Coch Awst, 2017 ([[Cyhoeddiadau Barddas]])


===Llyfrau plant===
===Llyfrau plant===

Fersiwn yn ôl 22:00, 22 Medi 2017

Hywel Griffiths
GalwedigaethLlenor, bardd, darlithydd

Bardd, awdur, darlithydd ac ymgyrchydd gwleidyddol[1] yw'r Prifardd Ddr Hywel Meilyr Griffiths (ganed 18 Mawrth 1983)[2] .

Bywgraffiad

Ganed Hywel Griffiths yng Nghaerfyrddin ac fe'i magwyd ar fferm ger Llangynog. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Mynychodd Ysgol Gynradd Llangynog, Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio fel darlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol erbyn hyn.[3][4] Mae hefyd yn gyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[5]

Hywel oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn a hanner rhwng Mawrth 2007 a Hydref 2008.

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 (Ynys Môn) ac yn 2007 (Sir Gâr), a Choron Eisteddfod Caerdydd 2008 gyda'i ddilyniant o gerddi rhydd ar y testun "Stryd Pleser" dan yr enw Y Tynnwr Lluniau.[6] Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015.[7]

Cyrhaeddodd ei gasgliad unigol cyntaf o gerddi, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2011 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel gyntaf i blant, sef Dirgelwch y Bont[6].

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

Llyfrau plant

  • Cyfres Strach: Dirgelwch y Bont, Hydref 2010 (Gwasg Gomer)

Erthyglau

  • Geomorffoleg afonol Cymru: heddiw, ddoe ac yfory 2008 (Gwerddon, 2(3): tud. 40-83)

Gwobrau ac anrhydeddau

Cyfeiriadau

  1.  Gwybodaeth Lyfryddol: Banerog. Gwales.
  2.  Adnabod Awdur: Hywel Griffiths (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  3.  Adnabod Awdur: Hywel Griffiths. Cyngor Llyfrau Cymru (2011).
  4.  Staff Academaidd » Griffiths,Hywel. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  5.  Comment is free... > Hywel Griffiths > Profile. The Guardian. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  6. 6.0 6.1  Rhestr Awduron Cymru: GRIFFITHS, HYWEL. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  7. Hywel Griffiths yn ennill Cadair Eisteddfod 2015. Adalwyd 7 Awst 2015