Plancton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: nn:Plankton
B robot yn ychwanegu: ko:플랑크톤
Llinell 37: Llinell 37:
[[it:Plancton]]
[[it:Plancton]]
[[ja:プランクトン]]
[[ja:プランクトン]]
[[ko:플랑크톤]]
[[la:Plancton]]
[[la:Plancton]]
[[lt:Planktonas]]
[[lt:Planktonas]]

Fersiwn yn ôl 17:55, 13 Mehefin 2008

Tomopteris, un esiampl o'r anifeiliaid yn y plancton

Organebau bychain o wahanol fathau sy'n byw yn rhydd yn y dŵr yw plancton. Mae'r rhain yn ffurfio rhan hanfodol a sylfaenol o'r gadwyn fwyd yn y môr. Gall y plancton fod yn facteria, yn blanhigion neu'n anifeiliaid bychan. Daw'r enw o'r Groeg πλανκτος ("planktos"), sy'n golygu "crwydryn".

Fel rheol nid yw'r organebau placton yn symud llawer o le i le trwy nofio, yn hytrach yn cael eu symud yma ac acw gan gerrynt. Fodd bynnag, maent yn aml yn symud i fyny ac i lawr yn y dŵr, gan godi i'r wyneb yn y nos a mynd yn ddyfnach yn ystod y dydd. Gall rhai mathau nofio o gwmpas i raddau helaeth.

Mae plancton yn fwyd i lawer o anifeiliaid eraill yn y môr, o folwsgiaid megis cocos hyd at forfilod.