Amldduwiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
*[[Mam-dduwies]]
*[[Mam-dduwies]]
*[[Duwies cariad]]
*[[Duwies cariad]]
*[[Creawdwr-dduwy]]
*[[Creawdwr-dduw]]


Ymhlith crefyddau modern, [[Hindwaeth]] yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y dduwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol [[Brahman]]. Ceir rhai ysgolion mewn Hindwaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft [[Vishnu]] neu [[Shiva]], er heb wadu bodolaeth y gweddill.
Ymhlith crefyddau modern, [[Hindwaeth]] yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y dduwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol [[Brahman]]. Ceir rhai ysgolion mewn Hindwaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft [[Vishnu]] neu [[Shiva]], er heb wadu bodolaeth y gweddill.

Fersiwn yn ôl 06:28, 8 Mehefin 2008

Isis, Osiris a Horus; tri o dduwiau'r Hen Aifft.

Amldduwiaeth yw'r gred mewn nifer o dduwiau a duwiesau, yn aml mewn pantheon. Yn aml mae mytholeg ynghlwm a'r duwiau, yn ei portreadu gyda chymeriadau a phriodoleddau gwahanol. Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, credir fod y duwiau a'r duwiesau i gyd yn wahanol agweddau ar un bod dwyfol.

Un enghraifft hanesyddol o amldduwiaeth yw Crefydd yr Hen Aifft, lle roedd nifer fawr o dduwiau a duwiesau, rhai yn cymeryd ffurfiau dynol ac eraill ffurfiau anifeiliaid. Rhai o'r prif dduwiau oedd Amon, Ra, Ptah, Isis ac Osiris. Ceir nifer fawr o dduwiau a duwiesau hefyd yng nghrefydd y Groegiaid, a chrefydd debyg y Rhufeiniaid; roedd gan y Celtiaid hefyd nifer fawr o dduwiau.

Ym aml, ceir yr un math o dduw neu ddiwies yn ymddangos mewn traddodiadau gwahanol:

Ymhlith crefyddau modern, Hindwaeth yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y dduwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol Brahman. Ceir rhai ysgolion mewn Hindwaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft Vishnu neu Shiva, er heb wadu bodolaeth y gweddill.

Coleddir undduwiaeth gan grefyddau megis Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn ôl y Qur'an, shirk (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf.