Vespasian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Benoni~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: ar:فسبازيان
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: az:Vespasian, tl:Vespasian
Llinell 31: Llinell 31:
[[af:Titus Flavius Vespasianus I]]
[[af:Titus Flavius Vespasianus I]]
[[ar:فسبازيان]]
[[ar:فسبازيان]]
[[az:Vespasian]]
[[bg:Веспасиан]]
[[bg:Веспасиан]]
[[bpy:ভেসপাসিয়ানো]]
[[bpy:ভেসপাসিয়ানো]]
Llinell 72: Llinell 73:
[[sv:Vespasianus]]
[[sv:Vespasianus]]
[[sw:Vespasian]]
[[sw:Vespasian]]
[[tl:Vespasian]]
[[tr:Vespasian]]
[[tr:Vespasian]]
[[zh:韦帕芗]]
[[zh:韦帕芗]]

Fersiwn yn ôl 15:44, 5 Mehefin 2008

Nodyn:Bywgraffiad

Titus Flavius Vespasianus (17 Tachwedd 9 - 23 Mehefin 79) oedd y pedwerydd ymerawdwr Rhufeinig i deyrnasu yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, a'r unig un o'r pedwar i fedru cadw ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd 23 Mehefin 79. Ei enw gwreiddiol oedd Titus Flavius Vespasianus ond wedi iddo ddod yn ymerawdwr cymerodd yr enw Caesar Vespasianus Augustus.


Ganed Vespasian yn Falacrina, yn aelod o deulu gweddol gefnog ond ymhell o fod yn amlwg. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Gwasanaethoedd Vespasian fel tribwn militaraidd yn Thrace pan oedd Tiberius yn ymerawdwr, a bu'n Praetor yn y flwyddyn 40 dan Caligula. Yn y blynyddoedd 43 a 44, pan oresgynnwyd Prydain yn nheyrnasiad Claudius, yr oedd Vespasian yn legad y lleng Legio II Augusta. Yn ddiweddarach gwnaed ef yn Gonswl ac wedyn yn Broconswl talaith Affrica.

Delwedd:020 Vespasian.jpg
Delwedd Vespasian fel ymerawdwr

Pan ddaeth Nero yn ymerawdwr, aeth a Vespasian gydag ef ar daith trwy Wlad Groeg i roi cyfle i'r Groegiaid wrando ar yr ymerawdwr yn canu. Yn anffodus syrthiodd Vespasian i gysgu yn ystod un o berfformiadau Nero, a chollodd ei ffafr am gyfnod. Yn ddiweddarach dewisodd Nero ef i ddelio a gwrthryfel yr Iddewon yn nhalaith Judea. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68, lladdwyd ei olynydd Galba yn 69 a chyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan Vitellius. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw Syria, Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar Afon Donaw dan Marcus Antonius Primus, a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn ail frwydr Bedriacum gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun.

Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf Titus. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Colisewm yn Rhufain.

Wedi'i flaenori gan:
Vitellius
Ymerawdwr Rhufain
69-79
Wedi'i olynu gan:
Titus