Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
2 ddelwedd
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 04.JPG|bawd|Eglwys Llanddeugwy (Llandogo).]]
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 04.JPG|bawd|Eglwys Eglwys Sant Euddogwy, Llanddeugwy (Llandogo).]]
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 11.JPG|bawd|Cerflun ar un o golfnau'r eglwys; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw.]]
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 11.JPG|bawd|Cerflun ar un o golfnau'r eglwys; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw.]]
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6g]]).
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6g]]).

Fersiwn yn ôl 23:57, 12 Medi 2017

Eglwys Eglwys Sant Euddogwy, Llanddeugwy (Llandogo).
Cerflun ar un o golfnau'r eglwys; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw.

Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6g).

Hanes a thraddodiad

Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo.[1] Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig.

Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy (Llandogo) yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.[2]

Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.

Llyfryddiaeth

Vita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).

Cyfeiriadau

  1. J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893).
  2. G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.