Brwydr Ronsyfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
BDim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:


==Cof==
==Cof==
Cyfeirir at y frwydr gan [[Iorwerth C. Peate]] (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi:
Cyfeirir at y frwydr gan [[Iorwerth Cyfeiliog Peate|Iorwerth C. Peate]] (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi:


:Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,
:Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,

Fersiwn yn ôl 15:49, 11 Medi 2017

Marwolaeth Rolant gan Jean Fouquet (c. 1455–1460).

Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal (Ffrangeg: Roncevaux, Sbaeneg: Roncesvalles) ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid.

Yng ngwanwyn 778, roedd Siarlymaen wedi bod yn ymgyrchu yn Sbaen. Wrth ddychwelyd i Ffrainc, ymosodwyd ar ran ôl y fyddin gan y Basgiaid. Gorchfygwyd y Ffranciaid, a lladdwyd Rolant yn yr ymladd. Anfarwolwyd y digwyddiad yn y Chanson de Roland, ond newidiwyd yr hanes; yn y Chanson, bellach y Mwslimiaid yw'r gelyn.

Cof

Cyfeirir at y frwydr gan Iorwerth C. Peate (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi:

Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,
o'r hen oes fud, i Ronsyfál.

a:

ac aros nes i'r gwyll fy nal,
a'r nos a fu yn Ronsyfál.