Orlando, Florida: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Dim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi symud Orlando i Orlando, Florida
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:03, 24 Mai 2008

Y ddinas ar fachlud haul

Mae dinas Orlando yn ddinas bwysig yng nghanolbarth talaith Fflorida yn Unol Daleithiau'r America. Yn ol Cyfrifiad Poblogaeth yr UDA yn 2006 amcangyfrifwyd bod iddi boblogaeth o 220,186 o bobl. Mae Orlando yn gartref i Brifysgol Canolbarth Fflorida, yr ail brifysgol o ran maint yn y dalaith a'r chweched yn y deyrnas.

Mae'r ddinas yn adnabyddus am nifer fawr o atyniadau i ymwelwyr sydd yn y cyffiniau, yn enwedig Walt Disney World Resort, sydd wedi'i leoli yn Lake Buena Vista rhyw ugain milltir (32 cilometr) i'r de o'r ddinas ar Interstate 4. Mae atyniadau amlwg eraill yn cynnwys SeaWorld ac Universal Orlando Resort. Mae tua 52 miliwn o dwristiaid y flwyddyn yn ymweld a'r ardal. Dim ond Las Vegas, Nevada sydd a rhagor o ystafelloedd gwesty yn yr Unol Daleithiau.