Dai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 41: Llinell 41:
{{Gwrando|enw'r_ffeil=Cyflwyniad Dai Jones - Dai Jones.ogg|teitl=Esiampl o lais Dai Jones|disgrifiad=Cyflwyniad Dai Jones i albwm ''Ar Eich Cais''|fformat=[[Ogg]]}}
{{Gwrando|enw'r_ffeil=Cyflwyniad Dai Jones - Dai Jones.ogg|teitl=Esiampl o lais Dai Jones|disgrifiad=Cyflwyniad Dai Jones i albwm ''Ar Eich Cais''|fformat=[[Ogg]]}}
{{Gwrando|enw'r_ffeil=Mi Glywaf Dyner Lais - Dai Jones.ogg|teitl=Esiampl o Dai Jones yn canu|disgrifiad=Dai Jones yn canu "Mi Glywaf Dyner Lais"|fformat=[[Ogg]]}}
{{Gwrando|enw'r_ffeil=Mi Glywaf Dyner Lais - Dai Jones.ogg|teitl=Esiampl o Dai Jones yn canu|disgrifiad=Dai Jones yn canu "Mi Glywaf Dyner Lais"|fformat=[[Ogg]]}}

[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|radio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[18 Hydref]] [[1943]]),<ref name="llyfr1"/> sy'n byw yn [[Llanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]. Fe'i adwaenir hefyd fel '''Dai Llanilar'''. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd, sydd erbyn hyn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.
[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|radio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[18 Hydref]] [[1943]]),<ref name="llyfr1"/> sy'n byw yn [[Llanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]. Fe'i adwaenir hefyd fel '''Dai Llanilar'''. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd, sydd erbyn hyn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.



Fersiwn yn ôl 17:43, 2 Medi 2017

Gweler hefyd: David Jones
Dai Jones
GalwedigaethFfarmwr, canwr, cyflwynydd
Plant1

Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a radio yw Dai Jones MBE (ganed 18 Hydref 1943),[1] sy'n byw yn Llanilar ger Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i adwaenir hefyd fel Dai Llanilar. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd, sydd erbyn hyn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997 ac ail gyfrol Tra Bo Dai yn 2016.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar eu fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.

Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth, gan y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.[1]

Gyrfa

Canwr

Yn y 1960au daeth yn denor medrus ac enillodd gystadlaethau yn Eisteddfodau'r Urdd yng Nghaerfyrddin a Llanrwst. Yn 1970 enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen ac y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Daeth i'r brig hefyd yng ngwyliau Pantyfedwen, Aberteifi, Môn a Phowys.[2]

Yn ystod y cyfnod yma, teithiodd y byd yn canu a rhyddhaodd chwech record LP ar label Cambrian.[3]

Cyflwynydd

Darlledodd Dai ar Radio Cymru am y tro cyntaf yn 1962 pan weithiodd ar y rhaglen Sêr y Siroedd. Erbyn hyn mae'n cyflwyno Ar Eich Cais ar yr orsaf.

Yn 1971 cychwynnodd gyflwyno y cwis teledu Siôn a Siân ar HTV Cymru a parhodd nes i'r gyfres wreiddiol ddod i ben yn 1987. Yn yr 1980au cynnar gofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Geraint Rees iddo gyflwyno'r gyfres Cefn Gwlad . Roedd Rees yn cynhyrchu rhaglen o'r un enw ar sianel HTV Cymru gynt, a oedd yn dangos pigion o fywyd cefn gwlad, a symudodd y rhaglen i S4C ar ei lansiad yn 1982. Testun y rhaglen gyntaf iddo gyflwyno oedd Berthlwyd, sef ei fferm ei hun. I genhedlaeth o wylwyr dyma'r sioe a gysylltir yn bennaf gyda Dai Jones, a daeth yn nodedig am ei ddigrifwch naturiol. Yn ogystal a'r rhaglenni arferol o leoliadau yng Nghymru gwnaed rhifynnau arbennig am anturiaethau Dai wrth deithio dramor.[4]

Mae hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni o Sioe Llanelwedd, Noson Lawen, a Rasus.

Cafodd ei ddychanu yn aml ar raglen gartŵn Gymraeg Cnex.

Gwobrau ac anrhydeddau

Gwobrwywyd gydag MBE am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.[5]

Enillodd Jones wobr BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig a fe'i wnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, Elystan Morgan.[6]

Daeth yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ar ei ganmlwyddiant yn 2004/05.

Bywyd personol

Cyfarfu ei wraig Olwen mewn cystadleuaeth da godro yn Nhrawsgoed. Priododd y cwpl ar 22 Hydref 1966 a mae ganddynt fab, John.

Disgyddiaeth

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Lyn Ebenezer. (1997). Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860741428URL
  2.  Dai Jones - bywgraffiad. Recordiau Sain. Adalwyd ar 1 Medi 2017.
  3. Dai Jones Llanilar's Royal Welsh honour (en) , Daily Post, 15 Gorffennaf 2010.
  4.  Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe. S4C Press Department.
  5.  MBE civil (H - M). BBC (31 Rhagfyr 1999).
  6. Gwobr i Dai Jones, Llanilar , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 1 Medi 2017.