Pepin Fychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: ko:피핀 3세 |
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: hu:Kis Pippin Newid: fy:Pippyn de Koarte |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[fi:Pipin Pieni]] |
[[fi:Pipin Pieni]] |
||
[[fr:Pépin le Bref]] |
[[fr:Pépin le Bref]] |
||
[[fy: |
[[fy:Pippyn de Koarte]] |
||
[[gl:Pipino o Breve]] |
[[gl:Pipino o Breve]] |
||
[[he:פפין הגוץ]] |
[[he:פפין הגוץ]] |
||
[[hr:Pipin Mali]] |
[[hr:Pipin Mali]] |
||
[[hu:Kis Pippin]] |
|||
[[it:Pipino il Breve]] |
[[it:Pipino il Breve]] |
||
[[ja:ピピン3世]] |
[[ja:ピピン3世]] |
Fersiwn yn ôl 11:21, 19 Mai 2008
Roedd Pepin Fychan, weithiau Pepin III, hefyd Pippin, yn frenin y Ffranciaid o 751 hyd 768. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Siarlymaen.
Ganed Pepin yn 714 yn Jupille, gerllaw Liège, yn fab i Siarl Martel a Rotrude o Treves). Roedd Siarl Martel wedi uno teyrnasoedd y Ffranciaid, ac fel Maer y Plas, ef oedd y gwir reolwr, nid y brenin. Ar farwolaeth Siarl Martel yn 741, rhannwyd ei diriogaethau rhwng ei ddau fab cyfreithlon; gyda Carloman yn rheoli fel Maer y Plas yn Neustria a Pepin fel Maer y Plas yn Austrasia. Yn 747 ymddiswyddodd Carloman ac aeth i fynachlog, gan adael Pepin yn unig reolwr.
Gyda chydsyniad y Pab, diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y Merofingiaid, a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin Carolingaidd cyntaf. Gorchfygodd y Lombardiaid ac yn 759 cipiodd Narbonne, gan yrru'r Saraseniaid o Gâl. Bu farw yn Saint Denis yn 768.